Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gogerddan," ond tua 1883, fel y gellir casglu, y daeth y syniad o'r llyfr uchod iddo—llyfr i gyfateb yn gerddorol i gasgliad Gee yn emynnol, ac ymrôdd i'w gario allan drwy gyfansoddi tôn bob Sul, ac yn amlach na hynny, os gellir dibynnu ar y dyddiadau sydd uwchben ei donau.

Y mae ei hanes yn Abertawe yn troi o gwmpas y canolbynciau hyn,—a'r pethau eraill oedd yn parhau yr un o hyd, megis cyfansoddi prifweithiau, beirniadu, etc. Daeth Dr. Parry i Abertawe adeg y Pasg, 1881. Eto diau na symudodd oblegid yr alwad o Ebenezer, ond oblegid yr alwad o Ebenezer, Abertawe.

Yn y fan hon da gennym allu cyflwyno i'r darllenydd frasolwg ar weithgarwch Parry yn Abertawe, gan ŵr o sylw a safle, cerddor a llenor, fu'n aelod o'i gôr am saith mlynedd, sef Mr. Dd. Lloyd, Killay—brasolwg a wna'r tro yn iawn fel ffrâm i'r hanes mwy manwl.

Dr. Parry yn Abertawe.

"Creodd dyfodiad Dr. Parry i Abertawe gryn gyffro yn y dref a'r cylch, a disgwylid pethau mawr oddiwrtho. Efe ar y pryd oedd yr unig Gymro gyrhaeddasai y radd o Ddoethur Cerddorol. Ac yr oedd 'Blodwen ' a'r 'Emmanuel ' yn dywedyd fod rhywun mawr wedi ymweld â ni; ac felly yr oedd. Pan ddaethom yn agos ato am y tro cyntaf, tarawyd ni gan fywiowgrwydd digymar ei ysbryd a'i ysgogiadau. Ymddangosai i ni fel pe buasai yn cael ei symud gan reddfau yn fwy na chan reolau, ac na fedrai pe carai dynnu ei hun yn rhydd o'u gafael. Pe byddai yn bosibl i ddyn fod yn llai na'r hyn y mae yn ei gyflawni, i'n golwg ni byddai Parry yn enghraifft o hynny: nid yn yr ystyr—fel y mae yn bod weithiau—o ddyn isel yn dal swydd uchel, ond yn yr ystyr o fod wedi ymgolli yn ei ddelfryd, nes anghofio ac esgeuluso amodau cyffredin bywyd. Hyn, gallwn feddwl, oedd yn cyfrif am yr awyrgylch oedd ei bresenoldeb yn ei greu. Teimlem hyn i fwy o raddau yn ei bresenoldeb ef nag a wnaem ym mhresenoldeb personau oedd yn gyfartal iddo mewn gallu, dysg, a doniau. Ni chawsom le i feddwl y gwyddai Parry ei hun fod y fath beth yn bod yn ei berthynas ag ef o gwbl.