Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Cyn ei ddyfodiad i'r dref, gwnaethai Silas Evans waith tra chanmoladwy yma ynglŷn â cherddoriaeth gorawl; ac ar ei ol ef Eos Morlais, fel arweinyddion y Swansea Choral Society. Dichon nad oedd perffeithiach ac addfetach côr y pryd hwnnw yng Nghymru. Perfformient y gweithiau goreu yn y modd goreu. Cynorthwyid y côr gan gerddorfa Mr. W. F. Hulley, Gwyddel, ac organnydd eglwys babyddol St. Dewi yn y dref. Yr oedd yr awen wir ynddo yntau, a bydd y dref a'r cylch dan ddyled iddo am amser maith.

"Un o'r pethau cyntaf wnaeth Parry yn y dref oedd rhoddi rhes o berfformiadau o'r Opera 'Blodwen' Hawdd deall gan fod y fath ddefnyddiau cyfoethog at waith o'r fath yn Abertawe ar y pryd, iddynt droi allan yn llwyddiannus iawn. Er fod yn y meddwl Cymreig ar y pryd ragfarn yn erbyn chwarae ar ddull y chwareudy aent i'w gweld yn dyrfaoedd. Y cwestiwn cyntaf pan gwrddai dau Gymro yn y dref a'r cylch y dyddiau hynny ar ol gofyn ' Shwd i chi heddy'? oedd ' Ydych chwi wedi bod yn gweld 'Blodwen'? A'r ateb parod fynychaf oedd ' Ydwyf,' gan ychwanegu, 'ac yr wyf yn mynd i'w gweld eto' Rhoddodd Parry lawer rhes o berfformiadau ohoni ar ol hyn yn y dref, ac yr oedd yn wastad yn dderbyniol gan y bobol. Ac felly y mae heddyw. Rhaid gan hynny ei fod wedi taro y tant iawn yn y portread a rydd ynddi o deimlad a bywyd y genedl.

"Ar y r adeg y daeth yma, ymwelodd Tywysog Cymru â'r dref, i'r amcan o agor y dock elwir ar ei enw. Ysgrifennodd Parry waith cerddorol croesawgar iddo. Yr oedd Parry yn hyn i'r Cymry yn debyg i Poet Laureate y Saeson. Ceisiai gyfieithu teimlad ei genedl ar adegau neilltuol i seiniau cerdd. Ceir enghreifftiau lawer o hyn, megis ei gytgan faith ar * Ganmlwyddiant yr Ysgol Sul yng Nghymru' ei anthem ' Wylwn, wylwn ' ar ol y 'Gohebydd' ei anthem ar 'Orlifiad Glofa Tynewydd' etc.

"Yn fuan ar ol sefydlu yn y dref, agorodd ysgol gerddorol yma a alwai The Musical College of Wales. Tyrrai disgyblion iddi o bob rhan o'r wlad—Gogledd a De. Codwyd ynddi ddatganwyr gyrhaeddodd safle anrhydeddus. Bu y Coleg yn dra llwyddiannus a blodeuog dros y saith mlynedd y bu Parry yn byw yn y dref. Gynorthwyid