Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beirniaid—dan ddylanwad Wagner? Y mae hefyd yn anodd gweld sut yr oedd y nodweddion hyn i gael eu hamddiffyn a'u datblygu, a'r " Ysgol " Gymreig i gael ei chynhyrchu. A oedd yn ddigon bod yng Nghymru, yn Abertawe? A yw'r nodweddion hyn yn awyr yr hen wlad dim ond eu cael oddiyno, fel y defnyddir planhigion i gymhathu nitrogen o'r awyr? Gofynnwn hyn am fod yna gwyno na roddai Parry ond ychydig le i gerddoriaeth Cymru yn ei gwrs na'i gyngherddau, ag eithrio'i weithiau ei hun. Gwelsom o'r blaen fod yna gwyno oblegid hyn ynglŷn â chyngherddau Aberystwyth, ac eto yn Abertawe yn y Grand Concert cyntaf a roddwyd yn yr Albert Hall, ni chanwyd gymaint ag un darn Cymreig, neu hyd yn oed o waith Cymro, ag eithrio rhyw Ballads newydd o'i waith ei hun. Cyhoeddwyd "Nebuchadnezzar" yn fuan wedi ei ddyfod i Abertawe heb hyd yn oed eiriau Cymraeg. Wrth gwrs, nid mater o eiriau yw teithi cerddorol; eto diau fod yna berthynas rhwng iaith gwlad a'r hyn sy'n genedlaethol yn ei chân. Canai Edith Wynne, Megan Watts, Mary Davies, Eos Morlais, a James Sauvage ganeuon Cymreig ar eiriau Cymraeg, ond yr unig gydnabyddiaeth ymron a dalai Parry i gerddorion Cymru ynglŷn â'i goleg oedd gofyn i rai ohonynt, megis Pencerdd Gwalia, Tanymarian, Emlyn, etc. i ddod yno ddiwedd y tymor i arholi.

Darllenwn gyda diddordeb, bid siwr, am y cyngherddau a'r cystadleuaethau Cymreig a gynhaliwyd yng Nghastell Caerdydd ac yn Abertawe dan nawdd Arglwyddes Llanover ac Ardalydd Bute, gyda Dr. Parry'n beirniadu ac yn arwain, pryd y rhoddid gwobrwyon o £40 am ganu'r delyn, a phryd y canwyd—yn y cyngerdd—"Ar hyd y nos," a "Hob y Deri Dando" gan gôr Cymreig Dr. Parry, a'r holl delynorion Cymreig, gydag effaith gwefreiddiol.[1]

Diau gennym na adawai y delfryd o goleg cerddorol cenedlaethol mo'i afael ar ddychymyg nac ymdrechion Parry, oblegid cawn iddo yn ddiweddarach yrru cylchlythyr i alw ei gyfeillion ynghyd i gydymgynghori ar y

  1. Yr oedd Promenade Concerts Mr. Haydn Parry hefyd yn dra Chymreig gyda "Chôr Cymreig Dr. Parry" 'n cynorthwyo. Y Coleg Cerddorol