Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mater, am, meddai "Cerddor y Cymry", y teimlai y gallai yr ysgol fod o fwy o wasanaeth i gerddorion Cymru drwy ei gosod ar dir ehangach." "Y mae y sefydliad hwn, hyd yma, wedi bod yn un personol, ac nid yw y Doctor eto yn 'mofyn i neb fynd o dan un cyfrifoldeb ariannol, ond y mae am gyngor neu fwrdd i lywodraethu ac i gynghori, a diau y talai y cyhoedd fwy o sylw iddo pe yn cael ei lywodraethu ar y cynllun hwn." Cynhaliwyd y gynhadledd yn y Guild Hall, Abertawe, dan lywyddiaeth Syr Hussey Vivian, pryd y daeth nifer o wŷr dylanwadol ynghyd, megis Maer Abertawe, y Mri. J. T. D. Llewelyn, T. Freeman, R. Martin, etc., a'r Parchn. Dr. Rees, A. J. Parry, Gomer Lewis, Emlyn Jones, etc. Tybiai Parry fod cryn lawer o deimlad dros gael coleg o'r fath. Yr oedd ieuenctid Cymru'n meddu talent naturiol at gerddoriaeth, a byddai'n beth mawr rhoddi pob cyfleustra iddynt i'w gwrteithio. Dywedai hefyd fod Arglwyddes Llanover (Gwenynen Gwent) yn mynd i sefydlu ysgoloriaeth i'r delyn Gymreig yn y coleg, a bod y diweddar Mr. Powell, o Nanteos, Aberystwyth, wedi gadael gwerth £900 o lyfrau cerddorol i'r sefydliad.

Nid ymddengys fod llawer o ddim wedi dod o'r ymgais hwn i osod y coleg "ar dir ehangach." Gwir mai Parry ei hun a alwodd y gynhadledd, ond y mae n gwestiwn—a diau ei fod felly i'r rhai oedd yn bresennol—a wnai ef drosglwyddo'r coleg a'i hunnan i'r "bwrdd." Tebyg mai ei duedd fuasai eistedd ar y "bwrdd" yn hytrach nag wrtho, neu yn wir y gwnai fabwysiadu (gyda gwahaniaeth) eiriau' Emprwr Ffrengig, "Myfi yw y coleg."

Cawn, fodd bynnag, i'r coleg droi allan yn llwyddiant. Ni wyddom pa gynhorthwy fu "nawdd" nifer o arglwyddi iddo; yr oedd gan yr Ianci oedd yn Parry gryn lawer o dynfa at bethau o'r fath, neu efallai y credai ynddynt fel moddion i dynnu y sylw cyhoeddus y cyfeiria ato uchod. Ond yr oedd yn alluog i hysbysebu yn fuan fod yna gant o fyfyrwyr yn y coleg. Ac er methu sylweddoli ei uchelgais ynglŷn ag ef, ceisiai ei wneuthur yn boblogaidd a gwasanaethgar mewn gwahanol ffyrdd. Ar derfyn un o'i ysgrifau dywed: "Carwn symbylu ein hieuenctid i bartoi ar gyfer arholiadau lleol blynyddol yn ein gwlad gan golegau