Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond nid mewn bywgraffiad y gellir gwneuthur hyn ond y tu mewn i derfynau amlwg, sef lle y byddai unoliaeth yr hanes yn cael ei dorri i'r meddwl cyffredin, a'r celfeiriau a ddefnyddid yn arwain i diroedd disathr iddo ef. Ar y llaw arall, y mae hanes bywyd y cerddor o ddiddordeb diffael iddo, o leiaf, os bydd yn fyw ei hun; ac wrth "hanes ei fywyd" y golygir nid cofnodiad o'r amgylchiadau ar ei wyneb, ond yr ymgais i olrhain tarddellau ei ysbrydoliaeth, sydd â'u ffrydiau yn sirioli'r byd, ei ddelfrydau a'i ddyheadau, gwewyr a gorfoledd ei hunan-fynegiant, ynghŷd â'i frwydr bellach a byd amgylchiadau cwrs, pan wedi mynegi ei hunan ar bapur, i fynegi ei hunan mewn côr a cherddorfa.

Os awn yn ol at rai o'r enwogion a enwyd uchod, y mae yna fywgraffiad arall i'r dyn Lord Kelvin wedi ei ysgrifennu, un ag y gall pawb ei ddeall a chael eu cyffwrdd a'u cyffroi ganddo, nid drwy anwybyddu ei athrylith a'i lafur a'i lwyddiant gwyddonol, ond drwy eu trafod yn eu perthynas a'u gwasanaeth i ddyn a gwareiddiad yn hytrach nag ar eu hochr fesuronol gyfyngedig. Y mae yna gofiant cyffelyb wedi ei ysgrifennu i Dr. Bushnell, nid yn iaith celddysg, ond un sy'n gyfarwydd i ddyn y strŷd. Neu pe cymerem fywgraffiad fel un Thomas Edwards, yr anianydd Ysgotaidd, gan Samuel Smiles; y mae yn un diddorol a defnyddiol i bob dyn, am y ceir ynddo hanes ymroddiad cariad i amcan ag y gall pawb ei werthfawrogi, er i wrthrych y cariad a chyfeiriad yr amcan fod yn gwbl wahanol i'r eiddynt hwy. Ar y llaw arall pe llwythesid y cofiant â thermau gwyddonol collasai ei ddiddordeb i'r dyn cyffredin ac fel bywgraffiad.

Felly, bywgraffiad cerddor i'r dyn cyffredin, ac nid ymdriniad cerddorol i gerddorion, yw'r un presennol; ymgais i atgynhyrchu bywyd Dr. Parry yng ngoleuni ei ddelfryd a'i amgylchoedd, ei amodau mewnol ac allanol. Wrth ddilyn yr hanes bydd yn help i'r darllenydd i gofio mai Cofiant Artist ydyw, un yn meddu ar nodweddion a diffygion artist, a'r diffygion yn codi i fesur mawr o'r nodweddion.

Yn " Consuelo" disgrifia George Sand artist fel un sydd yn ymloddesta mewn bywyd gydag angerddoldeb