dychrynllyd. Dylasai'n ddiau ychwanegu y gair "delfrydol" at "fywyd" gan fod yna ddigon yn ymloddesta ym mywyd cnawd a byd na ellir fodd yn y byd eu galw yn artists. Y mae'r artist ar y llaw arall yn atgynhyrchu neu ddehongli delfryd dan amodau "amser a lle," ac i wneuthur hynny, rhaid iddo fynd i ystâd eirias ac angherddol ei hun.
Yr agwedd ddelfrydol hon a osodir allan gan Tennyson yn ei bennill—
The poet in a golden clime was born,
With golden stars above;
Dowered with the hate of hate, the scorn of scorn,
The love of love.
Y mae efe yn wastad yn ei "oes aur," yn unig fod honno i fyny, nid yn ol nac ymlaen—iddo ef.
Dechreua'i ofidiau pan yn gadael yr "aur" am bres a phlwm a phridd y ddaear. Rhaid iddo gymryd amryw gamau o'r nwyfreol i'r materol. Yn y lle cyntaf, rhaid iddo wisgo'i feddylddrychau mewn geiriau neu nodau cyfaddas, a rhoddi i'w
airy nothings
A local habitation and a name
fel ag i fod yn ganfyddadwy i eraill. Yna rhaid argraffu a phrynu a gwerthu, a sicrhau help côr, ac offerynnau tant a gwynt, ac adeilad cyfaddas, a disgyn i fyd cwrs hysbysebiaeth, a cheisio gwneuthur i'r delfryd dalu ar y ddaear! Ac yn y byd hwn y mae'r artist allan o'i gynefin yn lân, ac yn aml yn gorfod dioddef dyrnod y byd, a gwawd a chondemniad "dynion y byd."
Wel, artist oedd Joseph Parry o'i goryn i'w sawdl. Wrth ddywedyd hyn ni olygir o angenrheidrwydd fod ei ddelfryd yr uwchaf yn bosibl, ond ei fod ef yn byw i'w ddelfryd ac i ddim byd arall, a'i fod fel baban ymysg pethau amgylchiadol. Ni awgrymir chwaith ein bod i gymeradwyo neu esgusodi pob dim a wnaeth, a cheisio'i ddyrchafu allan o gyrraedd safonau dynion cyffredin; ond maentumir hyn, na ellir ei ddeall yn iawn, na'i farnu'n gywir, ond yng ngoleuni ei ddelfryd ei hun.