Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Condemnia dynion y byd ef fel rheol oddiar dri safbwynt, sef eiddo masnach, cwrteisrwydd, a moesoldeb. Anaml y ganwyd cerddor â llwy arian yn ei enau, a phan wnaed hynny, fe'i tynnwyd allan yng nghwrs bywyd, oddigerth i gyfraith gwlad, neu ffrind caredig, ymyrryd. Diau iddo ymdrafferthu'n aml â gorchwylion y byd isod, gan feddwl gwneuthur gwyrthiau—eithr heb lwyddo ond yn anaml.

Bu Parry drwy ei fywyd mewn brwydr ag amgylchiadau, fel rheol yng nghanol gwyntoedd croes, ac yn aml o dan y dẃr. Eto, nid byth y rhoddai i fyny: yr oedd rhyw ystwythder adlamol yn ei natur a'i galluogai i forio ymlaen fel cynt. Ys dywed Dr. Protheroe, " gallai ddal croes-wyntoedd heb dynnu ei hwyliau i lawr."

Fel aml i artist, yn neilltuol y rhai na chawsant ddisgyblaeth bore oes, yr oedd Parry'n ddibris o ofynion cwrteisrwydd. Yr oedd yn gyson yn troseddu yn erbyn rhyw bobol oedd yn byw yn gwbl ar lefel y cwrteisrwydd hwn, ac na feddent ddychymyg i sylweddoli, neu ynteu na arhosent i ystyried mai nid anwybyddu eu hawliau a wnai yn gymaint a'u hanghofio gan faint ei gof o'i waith ei hun. Clywais un ferch ieuanc yn cwyno ei fod yn dymherus a diamynedd fel athro, eto credaf fod ei ddisgyblion ar y cyfan yn dysgu prisio'r ffrwydriadau hyn yn ol eu gwerth, drwy weld yr achosid hwy gan gyffyrddiad a gwrthdarawiad ei ddelfryd artistig ef â'u cyflawniadau anghelfydd hwy. Pan geryddwyd Mr. S. H. Tyng unwaith gan weinidog ieuanc am golli ei dymer, ei ateb oedd, "Ddyn ieuanc, yr wyf fi yn rheoli mwy o dymer mewn pymtheng munud nag a wnewch chwi mewn oes"; ac fe weddai i ni, bobol gyffredin, gofio fod y cerddor mawr, oherwydd ei deimladrwydd mawr, ac yn ol graddau datblygiad y teimladrwydd hwnnw, yn agored i brofedigaethau a phoenau yn gystal ag i bleserau na wyddom ni ddim am danynt. Nid oedd hunan-reolaeth boneddwr mor berffaith a Mendelssohn —un ag y synnai Berlioz at ei amynedd a'i gwrteisrwydd pan yn dysgu ei gôr—bob amser yn drech na rhuthr y teimladrwydd hwn. Tra y cydnebydd Berlioz yn ei hunan-fywgrafifiad ei fod ef ei hun yn euog o erwindeb tuag at foneddigesau y corws mewn cyferbyniad i amynedd a boneddigeiddrwydd Mendelssohn oedd â phob sylw o'i