Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eiddo yn " dawel a hyfryd," dywed am yr olaf ei fod mewn rhai cyfeiriadau cerddorol yn "ddraenog hollol." Gwyddis fod Beethoven yn cael ei gario gan lifeiriaint mewnol oedd yn torri'n drochion yn erbyn rhwystrau'r byd, ac yn agored i dymherau a'i gwnai i ymddangos yn anfoddog a balch; ond gwrandawer ar ei ddisgrifiad ef ei hun o'r ysbryd oedd ynddo: "O chwi sydd yn meddwl neu ynteu yn dywedyd fy mod yn ddygasog, ac yn ystyfnig, ac yn cashau fy nghyd-ddynion, y fath gam a wnewch â mi! . . . O blentyndod i fyny, y mae fy nghalon a'm meddwl wedi eu rhoi i deimladau caredig, a meddyliau am bethau mawr i'w cynhyrchu yn y dyfodol . . . ond er i mi gael fy ngeni gyda thymer wresog a bywiol, yn hofí o bleserau cymdeithasol, gorfodwyd fi yn gynnar i gilio o'r neilltu, ac i fyw ar fy mhen fy hun . . . Maddeuwch i mi, ynteu, os gwelwch fi yn troi ymaith, pan yr hoffwn ymgymysgu â chwi. Y mae fy myddardod yn ddwbl boenus i mi, pan yw yn peri i mi hefyd gael fy ngham- ddeall." Dengys hyn nad yw'r artist i lawr yn y dwfn yr hyn a ymddengys ar y wyneb, a'r hyn a ddywedir am Parry gan un o'i ddisgyblion goreu a mwyaf cyfarwydd yw: " Mor hapus a difyr y medrai fod. Yr oedd cymaint o'r plentyn ynddo, fel yr oedd yn amhosibl digio wrtho am ambell i dro ysmala." Ie, "ysmala"; tebyg mai dyna'r gwaethaf ellid ddywedyd amdano.

Dywedir fod artists yn aml yn bobol anfoesol. Cymer meddylegwyr hyn yn ganiataol, gan roddi fel rheswm dros hynny eu bod yn datblygu eu teimladau ar draul eu hewyllys. Y peth tebycaf i anfoesoldeb y clywsom fod Parry yn euog ohono oedd *ariangarwch. Rhaid mai rhyw ffermwyr ariangar o Sir Gaer neu Sir Aberteifi, yn ei farnu yng ngoleuni eu trachwant eu hunain a wnai ei gyhuddo o hyn. Ffolineb i gyd yw dywedyd fod Parry'n ariangar yn yr ystyr o garu arian er ei fwyn ei hun yn hytrach nag fel moddion: ochr arall ac ochr isaf ei gerddgarwch yn unig oedd ei [1]ariangarwch. Gwnai ef arian a phopeth tymhorol a naturiol yn weision cân. Ni roddwn enghreifftiau o'r nodweddion hyn yn y fan hon; gwneir

  1. Ymdrinir â cherdd-ladrad ym Mhennod XX.