Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny yng nghwrs y Cofiant: ein hamcan yn awr yw rhoddi i'r darllenydd ryw syniad am safbwynt y Cofiant. Ni cheisiwn ychwaith eu cyfiawnhau yn gymaint a'u mynegi fel ffeithiau y rhaid eu cymryd i ystyriaeth wrth geisio atgynhyrchu'r bywyd.

Y mae yna ddosbarth arall o feimiadaethau amo, nid gan: "ddynion y byd," ond gan ei gyd-gelfyddydwyr, yn troi oddeutu ei berthynas â'i fyd delfrydol, i ba raddau y llwyddodd i ddehongli hwnnw. Bydd yn help i alw sylw atynt yn y fan hon: caiff y cerddorion eu trin yn helaethach yn ol llaw. Cymerant y ffurf o dair "Pe": Pe buasai Parry wedi ei godi mewn amgylchfyd gwahanol; pe buasai wedi ymgadw'n fwy rhag dylanwadau tramor; pe meddai'r ddawn a'r gwroldeb i "chwalu'r gau a chwilio'r gwell," yna buasai ffrwyth ei athrylith yn llawer gwell nac ydyw.

Dywedai Mr. Joseph Bennett amdano, adeg ei farw, pe buasai wedi ei godi mewn awyrgylch cerddorol fel eiddo Binningham, neu Sheffield, neu Manchester, ymhell o sŵn y Salm-dôn Gymreig, yr hon, meddai ef, sy'n andwyo cerddoriaeth Gymreig, y buasai wedi dod i lawer uwch bri fel cerddor. Eto cydnebydd Mr. Bennett yn ei bapur o flaen Cymdeithas y Cerddorion yn 1888, fod i gerddoriaeth Gymreíg nodweddion hollol arbennig y dylid eu diogelu a'u meithrin. Ond ofer yn sicr yw ceisio dilyn y "pe buasai " yma fel rhyw fwch dihangol i'r anialwch. Dioddefodd Parry'n fawr yn ddiau oherwydd anfanteision bore oes, ond oni ddioddefodd pob cerddor Cymreig yn yr un modd, fwy neu lai? Beth "pe buasai" Tanymarian neu Ambrose Lloyd wedi cael manteision Parry hyd yn oed?

Gyda golwg ar ddylanwadau cerddoriaeth dramor arno, y cwestiwn yw, nid a ddaeth ef tanynt—beth fuasai pe heb ddod?—ond a oedd yn ddigon cryf i'w troi'n foddion i'w ddatblygiad ei hunan, neu ynteu a gafodd ei ddawn gynhenid ef, os nad ei llethu, o leiaf ei gorlwytho ganddynt? Mater yw hwn i'r cerddor, a cha sylw yn nês ymlaen. Dyma ddywed Mr. L. J. Roberts, H.M.I.S. ar y ddau " pe " blaenaf yn "Y Geninen" (Hydref 1906): "Gydag ef dechreua goruchwyliaeth newydd, dan yr hon y mae Cymru wedi dod i gyffyrddiad agosach nag o'r blaen â'r byd