Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan broffesu holi ynghylch hyn ac arall o barthed i'r gweithiau er mwyn ffugio amcan i'r llythyr. Ond ni lwyddodd yr ystryw—ac ni enillodd y côr: yr oedd y ddau erbyn hyn yn "hen adar," nad gwiw gosod magl ger eu bron, na cheisio eu twyllo ag us. Eto tebyg fod y tric wedi llwyddo gyda rhywrai rywdro, neu ni byddid yn ei dreio eilwaith ac eilwaith.

Eto nid pob cyfansoddwr sydd yn feirniad da mewn cerddoriaeth yn fwy nac mewn llenyddiaeth. Efallai nad oedd Parry y beirniad goreu ar ddatganu am yr un rheswm na fedrai feirniadu ei weithiau ei hunan: yr oedd o ardymheredd rhy hylifol (fluid), ac ni fedrai ymddidoli oddiwrth lif awen yn ddigonol, ond cymerai ei gario i ffwrdd ganddo. Am yr un rheswm ymgollai ym mhleser a chyfaredd y foment yn ormodol, ac ni chodai i fyny i feirniadu'r cyfan (yn y rhannau): "he could not see the wood for the trees." Yn ol un, ysgrifennai ormod, yn ol un arall siaradai ormod—yn ystod y datganu. Y mae'r ddau olygiad yna ar yr olwg gyntaf, fel yn gwrthdaro, ond nid ydynt mewn gwirionedd: dywed y ddau ei fod yn lle gwrando a beimiadu (yn y ffordd fwyaf effeithiol) yn gwneuthur rhywbeth arall. O'r ddau, bid sicr, y siarad oedd waethaf, nid yn unig nac yn gymaint am ei fod yn ymyrryd â chanolbwyntiad meddwl ei gyd-feirniad, ond hefyd am ei fod yn argymell—drwy awgrym (suggestion)—ei farn ei hunan arno. Fel hyn ceisiai ddileu bodolaeth hwnnw fel beimiad annibynnol, drwy ei ddarostwng iddo'i hunan—a byddai cystal i'r pwyllgor fod heb ei logi, ag fod siarad Parry'n cyrraedd ei amcan—er yn sicr na olygai ef hynny, ac ni freuddwydiai fod yna ochr foesol i'w siarad!

Nid yw yn sicr ei fod bob amser yn cadw'i hunan "gyda'i gilydd," ac yn canolbwyntio'i sylw ar y gystadleuaeth. Megis y byddai wrthi'n cyfansoddi yn ystafell y wers, diau y rhedai'i ddychymyg i ffwrdd ag ef ar esgynlawr yr eisteddfod. Ai nid hyn a brawf yr hanes digrif amdano yn Eisteddfod y Bala, lle y cystadleuai pum merch ar ganu unawd. Fel y digwyddai yr oedd yna bum pennill i'r gân, ond gofynnodd y beimiad iddynt ganu un. Anghofiodd yr arweinydd hysbysu hyn i'r merched, a chanodd y gyntaf