Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y pum pennill, nes peri i Parry dybio fod y pump wedi canu, a rhannu'r wobr rhwng y pump! Prawf da o'i allu beirniadol, gan y gellid disgwyl i'r un fod yn gyfartal iddi ei hunan, ond prawf hefyd ei fod yn ddiffygiol mewn sylwadaeth arall, â'i wits ar wasgar!

Yn y gallu cerddorol sy'n anhepgor i feirniad da, yr oedd, bid sicr, yn rhagori. At hyn—neu ynteu yn rhan o hyn—meddai glust eithriadol o deneu. Dywed Mr. Jenkins amdano y medrai ddarganfod y cysgod lleiaf o anghywirdeb yn natganiad y darnau mwyaf cymhleth. Mewn datganiad o'r gytgan "he never will bow down " yn Eisteddfod Tredegar, nododd tua deugain o wallau. "Gwyddwn ei fod yn iawn," meddai Mr. Tom Price, "canys yr oeddwn yn aelod o'r côr."

Meddai hefyd syniad uchel am swyddogaeth beirniadaeth:

"Y mae beirniadaeth yn iachusol ac yn dra llesol i'r efrydydd ieuanc ac uchelgeisiol. Y mae yn cyfarwyddo, yn cymell, ac yn gwasanaethu fel adlewyrchydd grymus y gall yr ymgeisydd awyddus wahaniaethu gwenith pur oddiwrth yr us diwerth ynddo; gwir deilyngdod oddiwrth ymhoniadau gweigion; gallu creol arweinydd sydd yn meddu grym atyniadol dros ei holl adnoddau lleisiol ac offerynnol; y lleisiwr sydd yn defnyddio pob celfyddyd fel moddion i gyffwrdd y galon; a'r offerynnwr a all gyfleu ei enaid, a churiadau ei galon, i fwrdd—allweddi ei offeryn: y gwir addasedig feirniaid a all ddadansoddi hyn oll, nid ydynt mor hawdd i'w cael; ond y mae llu o bersonau anaddasedig, y rhai sydd yn ymhonni meddu y doniau prinion hyn, yn ein papurau."