Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r gerddorfa gael ei lywodraethu, a bod yn ymunedig yn y cyfanwaith, os na all gydymgynghori a dibynnu ar arweinydd deallus, yr hwn a all wneuthur rhywbeth mwy na defnyddio ffon i gadw amser, trwy nodi'r tarawiadau yn y bar. Y mae yn amlwg, gan hynny, y dylai ein harweinwyr ieuainc gael cyfleusterau i addasu eu hunain fel arweinwyr galluog; a bod i'n safon gael ei dyrchafu yn y cysylltiad hwn. Yn Lloegr, ac ymhob gwlad arall, y mae ganddynt arweinyddion proffesedig, y rhai sydd gyfansoddwyr galluog; ac y mae y swydd yn cael ei llenwi gan gerddorion galluog ac addasedig, fel, yn absenoldeb y cyfansoddwr, y mae ei waith yn nwylo y fath ddynion na fydd un ofn i'w waith ddioddef oddiwrth ddiffyg dehongliad priodol. A'r rheol gyffredinol ydyw i'r cyfansoddwr gael ei wahodd i arwain y perfformiad cyntaf o'i waith, a chael ei dalu yn dda; ond yng Nghymru, fe gafodd cyfansoddwyr eu rhwystro i arwain, pan yn cynnyg eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim; ac y mae llwyddiant a thynged gwaith, a allai fod yn llafur bywyd y cyfansoddwr, yn cael ei adael o dan fatwn y fath arweinyddion ag sydd yn analluog i wneuthur cyfiawnder â'r gwaith sydd i gael ei berfformio, â'r artists ac â'r gerddorfa, ac nad yw yn anrhydedd i'r wlad a gynrychiolir."

Gyda'i "Emmanuel" wedi ei orffen, a'i "Nebuchadnezzar ar waith, y mae'n ddiameu fod Parry'n awyddus am gôr a cherddorfa i fod at ei wasanaeth—rhyw Bayreuth ar raddfa fechan; a naturiol tybio fod y posibilrwydd o hyn, at y pethau a enwyd o'r blaen, yn ffurfio un o brif atyniadau Abertawe iddo. Yr oedd cymdeithas gorawl enwog, sef y Swansea Choral Society, yn bod yno eisoes, dan arweinyddiaeth Silas Evans, ac yn gyfarwydd â pherfformio gweithiau goreu y prif feistri, ac efallai fod Parry'n lled-obeithio y celai hon i'w wasanaethu. Ond nid felly y bu, hyd yn oed pan symudwyd Mr. Evans gan. angeu yn Awst, 1881. Ond yr oedd Parry'n gyfarwydd â siomedigaethau erbyn hyn, nid yn unig ynglŷn â beirniadu ond hefyd ynglŷn ag arwain. At hyn y cyfeiria'n ddiau yn ei anerchiad: "ond yng Nghymru fe gafodd cyfansoddwyr eu rhwystro i arwain, pan yn cynnyg eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim"; felly y bu yn Eisteddfod