Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Merthyr mewn perthynas ag arwain y perfformiad o "Emmanuel."

Tebyg iddo weld yn gynnar y byddai'n rhaid iddo ffurfio cymdeithas gorawl ei hunan, oblegid cawn "Gronicl y Cerddor" am Mai, 1881, yn dywedyd: "deallwn fod ym mwriad Dr. Parry i gychwyn côr undebol yn y lle." A hynny a wnaeth dan yr enw The Swansea Musical Festival Society. Tebyg mai ffurf ddechreuol ar hon oedd y côr a gasglodd i ganu ei "Hail! Prince of Wales!' o flaen y Tywysog yn Hydref, 1881. Am y partoad ar gyfer hyn edrydd Mr. David Lloyd yn dra diddorol: Gymaint oedd y brys ynglŷn â'r peth fel y dysgai Parry yn yr hwyr i'r côr yr hyn oedd wedi ysgrifennu yn ystod y dydd. Meddai ar allu neilltuol i ddysgu côr yn ei waith ei hun heb ond ychydig notes. Gwyddai ef y gwaith, a chanai ei hun rywfodd gyda phob llais. Cerddai i fyny ac i lawr yr alê gan ganu mor nerthol nes argraffu y nodau yn sicr a diogel ar gof y canwyr. Ar ol gweithio felly yn galed am awr a hanner neu ddwy awr—dywedai dan chwerthin—hyd fanna heno—instalment arall nos yfory.' Ni chawd y darn wedi ei argraffu hyd o fewn dau ddiwrnod i ymweliad y Tywysog, ond yr oedd Parry wedi llwyddo i gael y côr i ganu y gwaith mor dda nes creu syndod edmygol yn y miloedd y dydd hwnnw. Ac nid yw y rhai a'i clywodd wedi ei anghofio hyd y dydd hwn."

Cwyd "Cronicl y Cerddor" gwr y llen ychydig yn uwch: "Ar yr achlysur o ymweliad Tywysog a Thywysoges Cymru â'r dref yn ystod mis Hydref yr oedd y partoadau cerddorol yn dra helaeth. Ar ben yr heol newydd, Alexandra Road, arweinid côr yn rhifo dwy fil gan Mr. Harlington Jones, dilynydd Mr. Silas Evans—y darnau a ddatgenid oedd Anthem Tywysog Cymru' a 'Let the hills resound,' gan Mr. Brinley Richards (y cyfansoddwr yn bresennol ar y llwyfan), ac Ymdaith Gwŷr Harlech 'i eiriau llongyfarchiadol Mr. Manning. Ar y fynedfa i'r Docks ceid côr arall o tua'r un nifer o dan arweiniad Dr. Joseph Parry, a chanent ei ymdeithgan newydd Hail! Prince of Wales! Cynorthwyid y côr hwn fel yr un blaenorol gan nifer o offerynnau, ac ymysg yr olaf yr oedd seindorf enwog y