aml, yn hollol un â'i bwnc, ambell i waith yn chwerthin yn galonnog, ac yna'n torri i wylo dan ing treialon Schumann, neu rywun cyffelyb.
Ceir cyfeiriadau aml yn ysgrifau ac anerchiadau Parry at gerddoriaeth a chaniadaeth y cysegr. Yr oedd ganddo hefyd ddarlith ar "Gerddoriaeth a Cherddorion yr Eglwys Gristnogol." Darllenodd bapur ar "Hanes Caniadaeth y Cysegr "o flaen yr Undeb Annibynnol yn 1888. Ymddangosodd o leiaf un ysgrif werthfawr o'i eiddo ar y mater, a chan fod ei wasanaeth a'i safle fel cerddor y cysegr i ddod dan ein hystyriaeth yn y bennod nesaf, defnyddiwn rai o'i sylwadau yn y fan hon i gyfeirio'n meddwl at honno. Wedi dywedyd mai "y deml, o bob lle, a deilynga'r pur, a'r coeth, a'r aruchel, a'r gelfyddyd uchaf," geilw sylw at rai pwyntiau o bwys ymarferol megis:
"Y dymunoldeb o ddwyn i ymarferiad cyffredinol ymhob cyfarfod cyhoeddus y salm—dôn, ac yn neilltuol yr anthem gynulleidfaol, fel peth hawdd ac effeithiol iawn gan yr holl gynulleidfa. Nid anthem neu gytgan i gôr yn unig a olygaf, ond anthem fer, syml, addoliadol, a pherffaith gynulleidfaol anthem o ran teimlad, tymer, ac arddull, yn hollol Gymroaidd, fel ein hen donau cynulleidfaol, yn orlawn o'r tân, y moliant, a'r arbenigrwydd hwnnw a berthyn i gerddoriaeth wir Gymreig.
"Y dymunoldeb fod cyd-ddealltwriaeth rhwng y gweinidog ac arweinydd y canu, fel y byddo i'r dôn, y salm-dôn, neu yr anthem a genir, hyd y byddo yn bosibl, gydredeg â phwnc y bregeth, er sicrhau unoliaeth i holl rannau gwasanaeth yr oedfa, nes y byddo yr un ysbryd yn rhedeg drwy y weddi, y canu, a'r bregeth, fel y byddo i'r holl gynulleidfa, drwy y naill a'r llall, gael ei chario i'r un cyfeiriad. . . . Nid yw y côr i wasanaethu yn lle Y gynulleidfa yn yr anthem, ond i gynorthwyo ac arwain." Gyda golwg ar ddatganu cytgan o oratorio "Yr unig le i wneuthur hyn yw ar ddechreu neu ddiwedd oedfa, nid yn y canol, gan y dylasai caniadaeth y cysegr fod yn gyfryw ag y gall yr holl gynulleidfa gyduno ynddo—yr hen a'r profedig gyda'u lleisiau crynedig i roddi cynhesrwydd ac ysbryd; y canol oed i roddi nerth a llawnder; a'r ieuainc i roddi yr ynni, y bywiowgrwydd, a'r deall;