cyhoeddiad mwyach, gan nad oedd yr undeb corawl mewn bod.
Gogleddwyr oedd wrth wraidd y mudiad, ond gyrrwyd cais i'r De am gydweithrediad. Yn rhifyn Tachwedd o'r "Greal" cawn sôn am ffurfio undeb corawl o'r fath yn y De, gyda Merthyr ac Abertawe'n ddau ganolbwnc, a Chaerdydd yn fan cynnal y rehearsals, ond yr ŵyl i'w chynnal yn y Crystal Palace! Tebyg mai dyma ateb y De i'r Gogledd. Ni ddaeth dim o'r naill na'r llall, nac ychwaith o ymdrech Dr. Parry a'i gyfeillion; prin y gellir edrych ar Wyl Gerddorol Caerdydd fel canlyniad, ac nid yw honno ar y goreu ond gwyl yng Nghymru.
Yr oedd y gymdeithas gerddorol i helpu'r wyl, a'r eisteddfod, ac i gael ei chysgodi ganddynt; y bwriad oedd rhoddi cyfleustra i gerddorion Cymru ymgydnabyddu â'i gilydd, a chydweithio i godi safon cerddoriaeth yn y wlad. Gychwynwyd hi yn 1879, ac eto gyda mwy o benderfyniad adeg y Pasg, 1888, yn Abertawe. Sefydlwyd amryw ganghennau y rhai a elwid ar enw rhyw gerddor Cymreig ymadawedig, megis "Cangen Ambrose Lloyd yn Abertawe. Yr oedd Parry'n bresennol yn Llanelli yng Ngorffennaf, pan sefydlwyd cangen yno. Cawn hanes am gyfarfod arbennig o'r pwyllgor yn y Drill Hall, Merthyr, yn Awst, pryd y penderfynwyd, ar gynhygiad Eos Morlais, fod gwyl gerddorol flynyddol i'w chynnal ar Ddy'gwyl Dewi i ddatganu cyfansoddiadau cerddorion Cymreig a phryd y rhoddwyd sêl ar y penderfyniad am y waith honno—drwy ddatganu "Dafydd a Goliath " yn yr hwyr. Yn ystod 1887—1890 ymddangosodd cyfresi o ysgrifau o'i eiddo yn y "South Wales Weekly News," y "Tyst (a'r Dydd)," a'r "Genedl Gymreig"; ond y mae'r cwbl yn troi oddeutu'r pwyntiau uchod, a'u cynnwys yn aml yr un.
Ai Parry o gylch gryn lawer i ddarlithio ar rai o'r materion a ennwyd, megis cenedlaetholdeb cerddoriaeth, ein hanghenion cerddorol presennol, addysg gerddorol, y cyfansoddwr cerddorol a datblygiad ei gelfyddyd,etc. Fel darlithydd, digon yw dywedyd ei fod fel efe ei hun, "ar don o flaen gwyntoedd" yr ysbrydiaeth fyddai'n dod yn