Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorws neu ddau, dderbyn yr un adeiladaeth a phleser ag a geid wrth astudio rhyw hanner dwsin o gyfansoddiadau cyflawn ar gyfer gwyl gerddorol. A phe dygid gwaith newydd allan, ni fyddai rhaid i'r cyfryw dderbyn y driniaeth greulon a dderbyniodd y cyfryw weithiau ym Mangor, Birkenhead, a Merthyr Tydfil. Byddai i raglen gŵyl gerddorol, yn cynnwys symphony, concerto, ac amryw weithiau o safon uchel, hau hadau da yn naear feddyliol ein cerddorion Cymreig ieuainc a ddygai ffrwyth gogoneddus yn y dyfodol."

Digon posibl fod y syniad am ŵyl o'r fath yn wreiddiol i Parry; ond cafodd syniad cyffelyb agos ei sylweddoli yn 1861. Galwyd "Greal y Corau" dan yr enw hwnnw, am y tybid y byddai hynny'n help i'w wneuthur yn is—wasanaethgar i lwyddiant "Undeb Corawl Cymru." Yn un o gyfarfodydd pwyllgor yr "Undeb" hwn a gynhaliwyd yng Nghonwy, pryd yr oedd yn bresennol Ambrose Lloyd (yn y gadair), Owain Alaw, Eos Llechid, Llew Llwyfo, a Chyndeyrn—apwyntiwyd Owain Alaw yn arweinydd cyffredinol, ac Ambrose Lloyd yn arweinydd mygedol, boneddwr lleol yn llywydd, a'r Parchn. E. Stephen a J. D. Edwards (clerigwr cerddorol) yn is—lywyddion, a Mr. E. W. Thomas, Lerpwl, yn arweinydd y band. Yr oedd yr ŵyl i'w chynnal yng Nghastell Caernarfon, Medi 20, 1861, a Hallelujah Chorus" Handel, a Chorawd o "Ystorm Tiberias" i'w datganu ynddi, ynghyda hymn genedlaethol i'w hysgrifennu'n arbennig ar gyfer yr ŵyl gan Ambrose Lloyd, heblaw anthem yr un gan Lloyd, Owain Alaw, Eos Llechid, a Chyndeyrn, a hen anthemau gan J. Ellis, Llanrwst; a J. Williams, Dolgellau; wedi eu had—drefnu gan Owain Alaw. Pan ychwanegir at hyn nifer o alawon Cymreig wedi eu trefnu i bedwar llais, gwelwn ei bod yn ŵyl Gymreig o'r iawn ryw. Mynnai rhai gau hyd yn oed yr "Hallelujah Chorus " allan. Penderfynwyd gyrru cais parchus at gorau'r De i uno yn yr ymgais i godi safle cerddorol Cymru, gan awgrymu y gallai cantorion Gogledd a De gwrdd mewn rhyw fan canolog, i ymbartoi. Ni ddaeth ateb o'r De, ac ni chlywyd rhagor am yr ŵyl nes i olygydd y "Greal" ffarwelio â'i ddarllenwyr drwy ddywedyd nad oedd angen am y