Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu gosod mewn cwmpas mor fychan erioed, a hynny mor ddestlus."

Meddai Parry gryn lawer o ddyfalbarhad i lynu wrth amcan fyddai wedi gafaelyd ynddo, ac i lafurio drosto yn ei ffordd ei hun. Wedi galw sylw at y dymunoldeb of gael gŵyl gerddorol, a cherddorfa genedlaethol, cawn ef yn ysgrifennu ar y mater i'r " Ysgol Gerddorol" y flwyddyn ddilynol, gan ieuo "Cymdeithas y Cerddorion" â'r Wyl. Y pryd hwnnw yr oedd yna ŵyl i fod yn y De, ac un arall yn y Gogledd yn flynyddol; gŵyl y De i fod yn symudol ac i'w chynnal yn Abertawe, Caerdydd, ac Aberdâr, ar yn ail; gwyl y Gogledd i fod ym mhafiliwn Caernarfon, fel y lle mwyaf cyfleus.

Erbyn 1883 y mae ei gynllun dipyn yn wahanol. Yn ei bapur o flaen y Royal Institution, Abertawe,[1] dywed:

"Fe gyrhaeddid canlyniad artistig mawr trwy gyfuno ein prif adnoddau offerynnol a chorawl, ac fe berfformid gweithiau sydd yn llawer tu hwnt i allu unrhyw gymdeithas neu gôr sengl, ac fe fyddai yn foddion i beri gwelliant dirfawr ar bob côr ar wahân. Gellid gwneuthur yr ŵyl yn dairblwyddol, cydrhwng Abertawe, Caerdydd, a Merthyr. Yr wyf yn gwybod fod rhai yn ofni y byddai i'r cyfryw ŵyl filwrio yn erbyn llesiant yr eisteddfod. Ni ddymunwn hynny ar un cyfrif, ac nid wyf yn credu mai dyna fyddai y canlyniad, gan y byddai i'r ŵyl gerddorol gael ei threfnu i beidio ymyrryd â'r eisteddfod. Gallai'r cyfryw ŵyl gael ei chynnal ar yn ail, rhwng Gogledd a Deheudir Cymru, fel, pan gynhelir yr eisteddfod yn y Gogledd, bydded i'r ŵyl gerddorol gael ei chynnal yn y Deheudir, a vice versa. Yr ydym oll yn gwybod mai cerddoriaeth ydyw prif ategydd yr eisteddfod; ond ni fydd i neb honni am foment fod yr eisteddfod yn gwneuthur cymaint er dyrchafu ein celfyddyd ag a wneid gan y fath wyl gerddorol ag a gymhellir. Ni all yr eisteddfod gael yr orchestra angenrheidiol, na chynhyrchu yr amrywiaeth cyfansoddiadau ag a ellid gan ŵyl gerddorol; ac ni fyddai i gorau a wastraffa gymaint o amser gwerthfawr a brwdfrydedd, am lawer o fisoedd, gyda dim ond rhyw

  1. "Y Geninen," Ebrill, 1883.