Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

donau yn "Aberth Moliant": "Experiment cynnil i'r mwyafrif o'n cyfansoddwyr fyddai gwneuthur yr un prawf;" gan ychwanegu na fydd rhai ohonynt, "efallai"—allan o'r fath nifer pa gyfansoddwr all obeithio yn amgen—yn ddim ond 'creatures of a day.'"

Ac felly y trodd hi allan gyda Parry. Yn ol yr Athro D. Jenkins nid yw mwyafrif ei donau "ond eco gwan o ddwsin o'i rai goreu." Ac meddai "Cerddor y Cymry" am y rhifyn gyntaf: "Y mae dwy ar bymtheg o donau, un salm—dôn, ac un anthem yn y rhifyn cyntaf hwn; ac fel y gallesid disgwyl, y mae yn eu mysg rai tonau o'r dosbarth blaenaf. . . . O ran yr amrywiaeth melodawl a nwyfus sydd yn rhedeg drwy'r holl leisiau . . . y mae Dr. Parry'n ardderchog. Ond ei ddiffyg yn ei donau, fel rheol, yw diffyg cyfoeth, defosiwn, ac urddas. Y mae yma ddiffyg amrywiaeth hefyd."

Yr oedd y llyfr hefyd i fod yn un cenedlaethol yn "y arddull Cymreig, ac yn llawn tân Cymroaidd." Ar y mater hwn eto, cymerai rhai cerddorion Cymreig eraill olwg wahanol. Ar hyn dywed Emlyn yn "Ỷ Cerddor":

"Nid condemnio naturioldeb a symlder ydym, ond yn hytrach o lawer eu cefnogi. Y mae gwahaniaeth dirfawr rhwng yr hyn sydd yn syml a naturiol, a'r hyn nad yw ond masw ac arwynebol; rhwng yr 'Hen Ganfed,' 'French,' ac 'Wyddgrug,' er enghraifft, a'r tonau diddim nad oes eisiau eu henwi, sydd yn gynwysedig o ychydig felysion wedi eu sefydlu ar gordiau y Tonydd, y Llywydd, a'r Is—lywydd; neu o ddilyniadau gwylltion nad ydynt na thôn, na chytgan, na chanig. Mae y wir dôn gynulleidfaol yn naturiol ei melodi, ei diweddebau a'i chynghanedd yn amrywiaethus a chyfoethog, a'r teimlad fydd yn rhedeg drwy yr oll yn ddefosiynol ac addolgar.

"Ein perigl ni yn awr . . . yw llithro'n ol, mynd i'r anialwch ar ol asynod gwylltion . . . Trueni fyddai i ni yn y dyddiau hyn ddadwneud yr hyn gyflawnwyd mewn cyfeiriadau diwygiadol gan ein rhagflaenwyr; os felly bydd, nid yn unig daw yr ysbryd drwg a daflwyd allan yn ol, ond daw â rhai eraill gwaeth gydag ef, a bydd ein sefyllfa yn fwy gresynus nag erioed."