Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eto y mae adolygiad Emlyn ar y rhifyn cyntaf o'r Llyfr Tonau yn y "South Wales Daily News" yn ffafriol iawn—yn ddigon ffafriol i Parry ei drysori yn ei scrap-book.

Am donau Parry dywed Mr. Jenkins eto:

"Y mae yna donau rhagorol gan Dr. Parry, ond fod gormod o'r elfen faledaidd ynddynt, a'u bod yn rhy debyg i'w gilydd. Fel cynganeddwr alawaidd i'r holl leisiau yr oedd Parry yn ddiguro—gweler ei gynganeddiad o'r dôn "Alexander" a thonau eraill—mae yr holl rannau mor ganadwy (vocal) ac nid yn offerynnol, er hyn llithrodd i efelychiadau plentynnaidd Wm. Owen, Prysgol, etc." Alaw Ddu eto:

"A osodir gwin newydd (wel, nid newydd iawn) mewn hen gostrelau? Os gwneir, beth fydd y canlyniad? Cyfansoddodd y diweddar J. Ambrose Lloyd y dôn 'Wyddgrug' ar y cyntaf, yn yr arddull efelychiadol, catiog hwn; ond fel yr oedd addysg gerddorol yn ymeangu, a goleuni gwell yn tywynnu ar ein cenedl annwyl ni, ail— drefnodd hi, gan ei gwisgo mewn dillad newydd— cynghanedd syml, urddasol, a chyfoethog—ei diwyg bresennol yn llyfr Gwyllt."

Sieryd Mr. L. J. Roberts gyda mwy o gydymdeimlad : ac y mae ei sylwadau ar "Aberystwyth " yn gyfryw ag y rhaid i bawb gytuno â hwy:

"Nid oes neb o'n cyfansoddwyr wedi ei feddiannu yn fwy llwyr ag ysbryd yr hen donau Cymreig; anodd yn wir yw gwahaniaethu rhai o'i donau, o ran naws ac arddull, oddiwrth hen donau Cymreig sydd wedi treiglo i lawr o oes i oes. Y mae amryw o'i donau wedi dod mor gynefin i ni a'n bara beunyddiol. Nid oes un dôn—hyd yn oed ymysg ein hen alawon—yn fwy adnabyddus yng Nghymru na'i don fendigedig 'Aberystwyth.' Yn ei ffurf a'i harddull y mae hon yn gynllun o'r emyn—dôn ar ei goreu. Y mae'r alaw yn codi ac yn disgyn yn rhwydd ac yn syml, o ris i ris, heb un naid drwsgl; ac ni anurddir y gynghanedd gan un cord anghyffredin neu ddieithr. Sylwer mor syml yw y frawddeg gyntaf, ac fel y canlynir hi gan yr ail frawddeg fel rhyw gysgod iddi. Yna ail genir y frawddeg gyntaf, ac atebir hi gan linell hynod o syml a rhwydd. Ar ol