Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn ceir amrywiaeth hapus daw drychfeddwl newydd yn y bumed linell, a rhoir pwylsais neilltuol arno drwy ganu yn y llinell nesaf yr un alaw dri nodyn yn uwch; ac ar ol cyrraedd teimlad angherddol yn y frawddeg nesaf terfynir yn syml a defosiynol gyda'r frawddeg ganwyd gyntaf yn y dôn. Gwelir yr un nodweddion yn y lleisiau eraill; a cheir rhyw swyn rhyfedd yn y dôn drwy yr ieuad cydnaws rhwng y melodi a'r gynghanedd. Anodd meddwl faint yw dylanwad Joseph Parry drwy y dôn hon yn unig fel ffynhonnell cysur ac hapusrwydd i filoedd o bobl : ddydd ar ol dydd, a nos ar ol nos, cyfyd ei halaw i'r nefoedd o wely unig cystudd, mewn lleoedd anghysbell fel mewn cynulleidfaoedd llawn, ymhob cwr o'r byd."

"Credai Parry," meddai Mr. David Lloyd, "lawer mewn teimlad. Ystyriai ef fel peth yn codi o ddyfnder natur dyn, ac nid fel peth arwynebol. Ysgrifennai gyda'r amcan o gynhyrfu y ffynhonnau dyfnion hyn, ac ychydig iawn o flas a gafael gaffai ar donau sychion, dideimlad. Cof gennym amdano yn arwain cymanfa ganu yn yr Albert Hall; ac fel y bydd rhaglenni cymanfaoedd canu yn gyffredin, yr oedd hon yn dra llawn o gynhyrchion lleol heb fawr o oleu na gwres ynddynt. Troai ddail y rhaglen yn ymchwilgar ond à golwg lled siomedig ar ei wyneb. Eithr yn y man wele y 'Delyn Aur' yn dod i'r golwg, ac fe newidiodd ei wedd. 'Yn awr,' meddai, dyma dôn Gymroaidd ei hansawdd a'i mynegiant, y fath ag a symuda enaid Cymro at y gwaith uchaf.' Cawd amser mawr wrth ei chanu. Yna meddai, Gallwn fyw am beth amser yn awr ar fare lai.' Credai Parry yn null yr hen Gymry o ganu fel y cynhyrfid hwy gan yr Ysbryd Glân yn y diwygiadau crefyddol."

Ni roddir y golygiadau hyn am y barnwn fod y naill na'r llall yn derfynol ar y mater; ond am eu bod yn rhai y rhaid i'r cerddor newydd eu hystyried a'u prisio, ac, o leiaf, yn dangos y dylanwadau oedd yn gweithio yn amgylchfyd Parry. Rhaid fod ynddo ogwydd cryf at yr arddull Cymreig, neu ynteu ganfyddiad a'i meistrolai o'i swyddogaeth a'i hawliau, cyn y buasai'n para am gynifer o flynyddoedd i'w feithrin, a hynny yn wyneb llif barn prif gerddorion ei wlad o'r Millsiaid i lawr.