Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym wedi gweld eisoes iddo gymryd at ysgrifennu cerddoriaeth syml a chanadwy, yn ystod tymor Aberystwyth, er mwyn gwasanaethu'r bobl. Efallai nad oedd y cymhelliad hwn yn absennol o'i waith yn pleidio yr arddull hwn, nid am ei fod yn syml a melodaidd, ond am ei fod yn fwy sensuous, neu anianol, ac felly yn gyfrwng moliant mwy naturiol i'r rhai na sydd eto—fel ar adegau o ddeffroad—yn gallu canu â'r ysbryd. Efallai hefyd a hyn sydd fwyaf tebygol—nad oedd yna unrhyw gymhelliad yn dibynnu ar olygiad o fath yn y byd, dim ond greddf gerddorol, a gogwydd cryf wedi ei etifeddu oddiwrth ei fam, a'i feithrin ym more oes, ac efallai'n ddiweddarach yn 1859-60.

Bid a fynno am hynny, y mae eu lle i'r math yma ar donau ar lefel arbennig o brofiad ysbrydol, ac i fesur, ar bob lefel, er iddynt gael eu condemnio o gadair yr Undeb Cynulleidfaol Seisnig, a chan arm-chair musicians eraill. Y gwir yw, y dylasai y cerddorion a gyfansodda neu ynteu a feirniada donau y bobl, adael eu cadair freichiau'n amlach, a mynychu nid un math ar wasanaeth crefyddol—a hwnnw fel rheol yn un respectable ffurfiol, ac oer, ond pob math ar bob lefel, fel ag í brofi yr amrywiaeth dylanwadau sydd yn gweithio y tuallan i'w rhigol hwy.[1] Gwn am un athro llenyddiaeth yn yr Alban ag yr oedd ganddo wrthwynebiad i ddarllen ysgrifau yr efrydwyr ar wahanol faterion llên, am fod eu harddull clogyrnog hwy'n cyffredineiddio ei un perffeith-gwbl ef! Beth bynnag yw lle dandy fel yna yn y byd llenyddol, nid oes iddo le yn Nheyrnas Nefoedd, ac ni ddylasai fod iddo le ynglŷn â chyfansoddi tonau y Deyrnas.

Bid siwr, y mae yna beryglon amlwg ynglŷn â gwasanaeth o'r fath. Dywed Rowlands Llangeitho mai un o anawsterau ei fywyd ysbrydol oedd llawenhau heb fynd yn ysgafn "too far East is West." A theimlodd Parry yr un anhawster ynglŷn â'i gerddoriaeth. Diau iddo rai prydiau

  1. When one has seen the exaltation of Copt and Arab in religion, when one has heard the great choric voice of Russia at church, and the splendid purposeful faith of Teutonic hymns, one knows that a calm singing of Praise to the Holiest in the height' is not the only mode of praise."—Stephen Graham yn "Children of the Slaves," tud. 85.