Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

syrthio islaw safon yr hyn a elwir yn "urddas" y cysegr, er na olygai ef hynny. Mewn ysgrif y dyfynnwyd ohoni eisoes dywed "mai y deml o bob lle a deilynga y pur, y coeth, yr aruchel, a'r gelfyddyd uchaf," a chan ei fod hefyd yn bleidiol i'r "arddull Cymreig," y mae'n dilyn y barnai ef ei bod yn bosibl cael "y pur, y coeth, yr aruchel" y tu mewn i'r arddull hwnnw, hynny yw, mai cyfrwng mynegiant o fath gwahanol ydyw, ac nid o ansawdd is, o angenrheidrwydd.

Fe weddai i ni gofio hefyd, ei bod yn bosibl codi uwchlaw yr hyn a elwir yn "urddas," fel y mae'n bosibl syrthio islaw iddo yn fwy cywir, y mae yna urddas ac urddas. Fe ddaeth yr amser pryd yr oedd yna brotest yn angenrheidiol yn erbyn y tonau amrwd a chwerthinllyd oedd mewn bri yn ystod hanner gyntaf y ganrif ddiweddaf—protest a gafwyd yn nhonau a llyfrau tonau y Millsiaid, Ambrose Lloyd, ac Ieuan Gwyllt; eto y mae'n dra sicr fod yna lefel o addoliad yn bod sydd yn uwch na'r hon a eilw Alaw Ddu yr un "urddasol," neu ynteu lle y mae yr hyn a ddeallwn ni wrth "urddas" yn cael ei golli—nid mewn rhywbeth is ond mewn rhywbeth uwch. Y mae yna fath ar "lawenydd anhraethadwy a gogoneddus" yn bod sydd yn gadael "urddas" y gwasanaeth eglwysig arferol yn anfeidrol ar ol yng nghymdogaeth iseldiroedd y cnawd, fel peth rhy negyddol, a rhy stiff a di-waed i ddringo i'r bannau. Nid fod y moliant yn an—urddasol, ond ei fod uwchlaw y gategori honno'n gyfangwbl. Dywed Paul am ryw bethau "na enwer chwaith yn eich plith," am nad ydynt yn perthyn i'r byd newydd yn yr un modd nid lle i sôn am "urddas" yw tŷ y Tad pan ddaw'r mab afradlon adref, pan syrthia'r naill ar wddw'r llall, a phan " ddechreuant fod yn llawen." Chesterton, onide, sydd yn dywedyd fod Duw'n gallu chwerthin, ac y mae hyd yn oed Ysgotyn sych—athronyddol fel Fairburn yn sôn am y nefoedd fel yn llawn the music of multitudinous laughter and tears."

Cyfansoddai dôn bob Sul, ond dengys y dyddiadau wrth y tonau ei fod yn cyfansoddi rai prydiau'n amlach na hynny, fel pe byddai un dôn yn mynnu dwyn chwaer neu ddwy gyda hi; a gobeithiwn hefyd ei fod rai prydiau'n cyfansoddi'n anamlach na phob Sul. Fodd bynnag,