gwelir ôl yr ymgais ar y tonau; y maent yn rhy debyg i'w gilydd, fel standardized goods. Ys dywed Alaw Ddu, peth rhwydd i un o allu Dr. Parry oedd cyfansoddi; peth arall yw cynhyrchu; rhaid i bethau byw gael eu geni, nid eu gwneuthur.
Er y sieryd yr Alaw braidd yn ddiystyrllyd hefyd am rai o anthemau Parry, y rhai oedd yn ffrwyth ymgais i roddi cyfryngau moliant syml a chanadwy i'r bobl; dywed yr Athro Jenkins am ei anthemau cyntaf: "Crewyd cyfnod newydd yn hanes cerddoriaeth gysegredig Cymru pan gyhoeddwyd y 'Chwech o Anthemau'; ac y mae Yr Arglwydd yw fy Mugail' yn em ddisglair, na lwyddodd un cyfansoddwr Seisnig, tramor, na Chymreig wneuthur cystal."
Yr oedd yn un o anianawd ddefosiynol, ond ar hyd rhodfeydd cerddorol yn bennaf yr ai ef i gyfarfod y Brenin. Dywed Mr. Lloyd y byddai'n aml yn tywallt ac yn sychu deigryn dan ddylanwad hwyliau Dr. Rees, a rhwydd gennym gredu y byddai hynny'n cyffwrdd ag ef, ac yn dwyn ei sylw'n gaeth. Ond fel rheol nid oedd yn wrandawr astud, yn ol tystiolaeth rhai a'i gwelai'n gyson, ac oherwydd eu diddordeb ynddo, a'i gwyliai yn ystod y gwasanaeth. Os na fyddai rhyw apel eithriadol at ei deimlad, byddai ei feddwl ef ymhell o dref, a dangosai ei absenoldeb drwy ganiatâu i'w law chwith flino a thynnu bys bach ei law dde, fel pe byddai'n ei ddwyn drwy ymarferiadau fel yr eiddo Schumann i geisio 'i wneuthur yn fwy, neu ynteu'n fwy hyblyg.
Er yr anogir ni i weddïo bob amser â phob rhyw weddi, yn ol barn rhai, nid prawf o'r defosiwn uchaf yw ei waith yn dwyn gweddi i mewn i gynifer o'i weithiau, megis Ar don o flaen gwyntoedd," "Y Pererinion," "Y Bradwyr," ""Y Bachgen Dewr," "Y Mynachod," "Cytgan y Derwyddon," "Cambria," "Ceridwen," a'r rhan fwyaf o'i brif weithiau; ac yn arbennig ei waith yn gwneuthur i'r dorf yng ngolygfa "yr Eisteddfod" yn Opera "Y Ferch o Gefn Ydfa" i ganu "Crugybar." Yn sicr, y mae ysgaru rhwng geiriau gweddi neu emyn a'u hamcan addoliadol, gan eu gwneuthur yn gwbl is—wasanaethgar i amcanion dramayddol yn mynd â ni'n agos iawn at lygru llestri'r deml.