Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae mwy o ddoniolwch a "mynd" nag o art yn y geiriau. Yn yr ail act y mae'r gwleidydd a'r person yn troi i ddadleu â'i gilydd, ac fel hyn y'u disgrifir:

That's a sample of the fellows that brought about the war,—
Their tongues are set on swivels, their heads vesicular;
They prate of patriotism, but don't go near a fight,
Their trade is office—seeking, and nothing's ever right!


Gallwn gredu fod y "Quill-driving Chorus" yn y swyddfa rhyfel yn fywiog ar y geiriau :

Work work! early and late—
Such is our cruel, cruel fate;
Scribble, scribble, right or wrong,
Quotas and credit all day long.


Dywedir wrthym fod y gerddoriaeth yn llawn amrywiaeth a melodi'n dilyn melodi fel ag i swyno'r gwrandawyr. Gallai clust sylwgar" meddai un beirniad "gasglu fod cof yn gystal a dychymyg yn bresennol gyda'r cyfansoddwr yn ei funudau o ysbrydoliaeth—heb fod yna ddrwg-dybiaeth o ladrad, oblegid y mae'r cwbl yn eiddo iddo drwy greadigaeth neu driniaeth wahanredol."

Ni chyhoeddwyd mo'r opera hon, ac ni chlywsom iddi gael ei pherfformio wedyn—nid am na chyhoeddwyd mohoni, mae'n sicr, oblegid ni chyhoeddwyd "Arianwen," ac eto medrai'r awdur hysbysu yn 1896 ei bod wedi ei pherfformio gant o weithiau.

Yn ymyl rhyw waith ysgafn—yn foesol a cherddorol—arferai Parry, fel y sylwyd eisoes, roddi i'r cyhoedd waith trymach o ran cyfansoddiad a mwy dwys ei ansawdd. A hynny a gawn yn awr yn "Nebuchadnezzar," gyda "Virginia" y naill ochr, ac "Arianwen" yr ochr arall. Efallai fod hyn yn ddyledus i'w ddull o weithio, yn fwy nag i bolisi. Gŵyr pob gweithiwr meddyliol beth yw blino ar waith trwm, ac eto feddu digon o ynni i wneuthur gwaith ysgafn,—fel Gladstone a'i ddwy ffenestr. Cyfansoddai Parry ambell waith gyda rhuthr, ond ni fedr neb ddal hynny'n gyson; a chan nad oedd ganddo hobby arall, mae'n debyg, ond cerddoriaeth, a chan na fedrai fod yn