Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llonydd, diau fod natur wedi dangos iddo y ffordd o orffwys mewn gwaith ysgafnach. O leiaf, perfformiwyd y tri gwaith hyn y tu mewn i ryw flwyddyn i'w gilydd.

Dechreuwyd cyfansoddi'r gantawd "Nebuchadnezzar" yn Aberystwyth, ond yn Abertawe y'i gorffennwyd. Pan yn cyfansoddi " Blodwen " dywedir wrthym fod Parry dan ddylanwad Rossini a Verdi, ond yn awr, ymddengys fod Wagner wedi diorseddu'r olaf i fesur yn ei olwg a'i astudiaeth. Mewn ysgrif o'i eiddo yn 1884, noda "Wagner, Gounod, a Schumann fel meysydd toreithiog i'w hefrydu yng nghyfoethogrwydd cynghanedd eu cynhyrchion. Dyma un o brif nodweddion y cyntaf yn arbennig, gan y ceir yn ei wybren gerddorol ef gymylau a phlanedau yn ogystal a mellt a tharanau ddigon i foddhau cywreinrwydd cynghaneddol yr efrydydd mwyaf uchelgeisiol, gan fod nodwedd cynhyrchion y dyn rhyfedd hwn yn bennaf yn lliwiad ei gynghanedd, ac offerynnau y gerddorfa." Nid rhyfedd felly fod argraff Wagner yn drwm ar "Nebuchadnezzar." Gwelsom eisoes i'r gantawd gael ei rhoddi yn Eisteddfod Lerpwl, 1884, gyda llwyddiant mawr, ac yn ddiweddarach yn Abertawe, ond pan roddwyd y gwaith yn nês ymlaen yn Llundain, yr oll a ddywed y "Times yw: "Os nad yw Cymru hyd yn hyn wedi cynhyrchu cyfansoddwr mawr, fe wnaeth y cantorion ddal i fyny y safle y mae'r dywysogaeth wedi ennill fel magwrfa lleisiau hyfryd."

Perfformiwyd "Arianwen" yn y Theatre Royal, Caerdydd, yn 1884. Profir iddi "gymryd" gan y ffaith iddi gael ei rhoddi yno wedyn yn 1890, gyda llwyddiant mwy fyth. Disgrifia'r opera fywyd y pentref Cymreig gan mlynedd yn ol. Ymysg y cymeriadau y mae dwy soprano, sef Arianwen merch hen bysgotwr Cymreig, Twm Sion Twm, a Nansi, merch i ffermwr; dwy contralto, sef Peggi Wyllt, gwrach yn byw mewn ogof, wedi ei siomi mewn cariad, ond yn byw i waith da, ac Elspeth (mam Arianwen); dau denor, sef Walter Mostyn, ar y cyntaf yn bysgotwr, ond yn troi allan yn Syr Robert Vychan, a Digri Gwyn, teiliwr teithiol, cymeriad comic yr opera; a dau fass, sef Twm Sion Twm, a Morgan Jones, ffermwr ieuanc o sefyllfa uwchlaw'r cyffredin, ond braidd yn wan yn