Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei ben. Y mae'r plot yn troi oddeutu ymgais Morgan Jones i ennill llaw Arianwen, tra y mae ei serch hi'n eiddo i Walter Mostyn.

Tra y mae difrifwch yn nodweddu "Blodwen" yn ei syniad a'i gweithiad allan, y mae "Arianwen" yn ddigri, ysmala, ac ysgafn. Y mae'r geiriau gan Dewi Môn yn ddoniol, ond gwna'r gerddoriaeth gyda'i phaent a'i phertrwydd hwy'n fwy doniol fyth. Proffwydai'r beirniaid fwy o boblogrwydd iddi nag i "Blodwen"; nid yw y broffwydoliaeth wedi ei rhoddi tan brawf hyd yn hyn, gan na chyhoeddwyd mohoni.[1] Y mae wedi ei pherfformio'n bennaf gan y Welsh National Opera Company dan arweinyddiaeth Mr. Mendelssohn Parry.

Dywedir ei bod yn werth gweld Dr. Parry'n arwain yr opera hon; yr oedd yn ei afiaith, ambell waith yn chwerthin yn iachus, a'i ysbryd yn cael ei gipio, fel bad ysgafn, gan lif y gân. Diau nad oedd hyn ond atgyn— hyrchiad o'r pleser a gafodd wrth ei chyfansoddi, wedi ei fwyhau, efallai, gan bresenoldeb a chydymdeimlad eraill. Os felly, hyfryd yw meddwl amdano, pan ar ddiffygio gan y daith, ei lludded maith, a'i llwch, yn gallu ymneilltuo i wrando "difyr ddyri dyfroedd arian" y melodion hyn, tra yr ai brydiau eraill gerllaw "dyfroedd tawel" y dôn, neu i lan y môr yn yr oratorio.

Yn 1903, dywed Mr. D. Jenkins i Dr. Parry gyfansoddi "Nebuchadnezzar" a "llawer" o "Saul o Tarsus" yn Aberystwyth. Tebyg iddo ysgrifennu braidd yn frysiog y pryd hwnnw, oblegid ddeng mlynedd yn ddiweddarach (1913) dywed i "rannau o Nebuchadnezzar" gael eu cyfansoddi yn Aberystwyth; ac yn 1914, i "Nebuchadnezzar " a "Saul" gael eu cyfansoddi yn Abertawe. Fodd bynnag, ni chyhoeddwyd mo "Saul" hyd 1892, er bod yr oratorio wedi ei gorffen cyn hynny, canys darllenwn yn y "Cerddor" am Awst, 1891, fod am Awst, 1891, fod "Dr. Parry wedi gwerthu ei oratorio ar delerau manteisiol i gyhoeddwyr Seisnig adnabyddus."

Ni adewai ei brif weithiau hyn—at ei weithgarwch arall—lawer o hamdden iddo i bethau llai, ac y mae ei

  1. Bwriada Mr. Snell, Abertawe, ei chyhoeddi.