Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Virginia," "Nebuchadnezzar," "Arianwen" 159 hysbysebau o ganeuon, corawdau, etc. tra yn Abertawe, ar yr olwg gyntaf yn gamarweiniol. Gwneir ei "Book of Songs, er enghraifft, i fyny agos i gyd o ganeuon a gyhoeddwyd o'r blaen, neu ynteu rhai allan o "Blodwen" ac "Emmanuel." Y mae'n gynwysedig o bum rhan:

I.—"Cloch y Llan," "Yr Eos," "Y Milwr Dewr," "In dreams I saw a maiden fair."
II. "Wele y dyn," "O! chwi sy'n caru Duw," "O! dywed im', awel y nefoedd," "Rwy'n cofio'r adeg ddedwydd," "Yr Ehedydd."
III.—"Yr Ehedydd," "Fy Mlodwen, f'anwylyd, fy mhopeth," "Tra byddo yr helwyr," "Amcanai'r Tywysog wedi hyn," "Newydd! Newydd! Engyl frodyr."
IV.—"Yr Hen Ywen Werdd," "Gwraig y Morwr," "'Rwy'n cofio'r adeg ddedwydd," "Syr Hywel o'r Wyddfa," "Ai gwir, O! ai gwir."
V.—Rhyfelgan, Niagara," "Y Trên," "Gwraig y Morwr," "Ysbrydion y Dewrion."

Ymysg yr uchod ceir rhai o'r caneuon a ganai ef ei hun pan yn yr R.A.M., ond na chanai ei hunan mwyach. Ymddengys ei fod yn hyn fel ambell bregethwr poblogaidd a ferchyg ambell bregeth allan o wynt i fyny ac i lawr y wlad, ac yna a'i cyhoedda, gan ei gwneuthur felly'n foddion gras ac yn foddion pres fwy neu lai—mwy o'r olaf, a llai o'r blaenaf, efallai. O leiaf yr oedd gan Parry ganeuon eraill at ei wasanaeth ei hun yn awr. Yng nghyngerdd cyntaf y coleg yn Abertawe canwyd pedair ballad newydd o'i waith: "The Golden Grain," "The Telegraph Boy," "Swansea Bells," a "The Gates of old Carlisle"; ynghyd â thriawd, "The Village Blacksmith," ganddo ef neu ei ddisgyblion; ond ni hysbysebir rhain eto. Gwneir ei "Book of Duets "i fyny'n gwbl o ddeuawdau o "Blodwen " ac "Emmanuel," a'i "Gongregational Anthem Book," o'i anthemau adnabyddus, "Ar Lan Iorddonen ddofn," "Wele yr wyf yn sefyll, Wele yr wyf yn sefyll," "Mi a godaf aca af at fy Nhad," "Moliant i'r Iesu," " Ysbryd yw Duw," Yr Utgorn a gân," "Teilwng yw'r Oen," a Hiraethgan (Memorial Anthem).

Geilw sylw pwyllgorau eisteddfodol, etc. at ei gyfres gorawl (choral list) o chwe chorawd a deugain, yr hon a