Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ranna i bedwar dosbarth: (1) yr hawdd; (2) y cymharol anodd; (3) yr anodd; (4) yr anodd iawn. Corawdau yw"r rhai hyn eto gan mwyaf o "Blodwen," "Emmanuel," a "Joseph." Yn y dosbarth cyntaf cawn yr wyth anthem uchod, ynghyd â "Molwch yr Arglwydd," ""Requiem"" (Ieuan Gwyllt), "Bydd Drugarog," "Loyal Hearts," "Reapers" Chorus," "Ddwy flwydd yn ol," "Nid myfi all esbonio," "Joseph a ganfu ei frodyr," "Molwch yr Arglwydd" (o "Joseph"), "Wele y Breuddwydiwr," "Myfi ydyw Joseph eich brawd," Mae"r haul yn machlud dros y bryn," "Taenwn flodau ar y galon," "Rhown fanerau ar y muriau." Yn yr ail ddosbarth ceir: "Yr Iôr, Efe sydd deyrn," "Er plygain amser," "Yr engyl fyrdd," "Llawenhaed y nefoedd," "Y Cynfab Tragwyddol," "Mor ogoneddus yw Dy waith," ac "Yn enw Harri ddewr, Cydganwn, I"r Gad! I"r Gad!" "Chwibanu rhyddion odlau," Cenwch y clychau," "Moliannwn y Nefoedd," a"r Rhyfelgan Gorawl, "Molawd i"r Haul," Nos-gân," "Hoff D"wysog Cymru gu." Yn y dosbarth anodd cawn "Cerddodd aethau drwy holl anian," "Fe gyfyd goleuni," "Disgynnai cawod ddychrynadwy," "Wele Eden, henffych iddi "; ac yn y dosbarth olaf, "Canwn ganiad newydd," "Fy Nuw cyfamodol" (double chorus), ac "O! Jerusalem" (double chorus). Cyfansoddwyd "Molwch yr Arglwydd" ar achlysur gwaredigaeth y glowyr yn Nyffryn Rhondda, 1877; y "Nosgan" ar gyfer Eisteddfod Eryri, 1879; a datganwyd "Molawd yr Haul" gan yr Eryri Choral Union ar ben yr Wyddfa, Awst 22, 1879. Darn newydd a hysbysebir yw "Cwch-gân" (Boat-song) i T.T.B.B. Yn y drydedd ran o "Delyn yr Ysgol Sul" eto ceir amryw gorawdau o "Joseph." Ni fedrwn lai na theimlo rhywbeth tebyg i'r push masnachol yn y dull hwn o gynnwys yr un darnau mewn gwahanol gasgliadau, ambell waith mewn cymaint a thri ohonynt. Beth sydd i gyfrif am hyn? Gwelsom yn nês yn ol fod Parry wedi mynd i ddyled ynglŷn â chyhoeddi "Blodwen "ac "Emmanuel"; a'r esboniad mwyaf naturiol yw ei fod yn gwneuthur pob ymdrech a fedrai i'w thalu. Gwir nad yw'n talu i gyhoeddi cerddoriaeth na llenyddiaeth yn aml yng Nghymru; eto os llwyddir i werthu digon y mae yn talu