Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel ymhob gwlad arall. O leiaf, nid yw'n hawdd gweld fod un rheswm arall dros frysio i roddi y drydedd ran o "Delyn yr Ysgol Sul" ar y farced drwy drosglwyddo iddi rannau helaeth o "Joseph."

Diau fod yna alw am ddarnau hawdd a byr o bob math. "Y mae galwad amlwg," meddai "Cronicl y Cerddor," "am ddarnau syml ond chwaethus, ac yn sicr dylai ein cyfansoddwyr ni ein hunain fod yn alluog i gynhyrchu yr hyn sydd eisiau, heb fod angen am fynd i na Lloegr nac America." Dyna'n ddiau pam y cychwynnodd "Gôr y Llan," sef "Cyfres Fisol o Ddarnau hawdd a byr, yn y ddau nodiant, gyda geiriau Cymraeg a Saesneg, at wasanaeth corau ieuainc ein gwlad." Daeth y rhifyn cyntaf allan yn 1883 yn cynnwys "Hen Glychau'r Llan," Rhangan ddisgrifiadol gan Dr. Parry.