Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erbyn hyn, ac yn ymganghennu'n llydan dros derfynau'r dref. Heblaw'r ffyniant yn ei gylch addysgol, yr oedd. ganddo gymdeithas gorawl ddisgybledig a chyfarwydd erbyn hyn at ei wasanaeth. Nid mewn dydd na blwyddyn y gellir gwneuthur côr felly, ac wele ef yn awr, ar ol blynyddoedd o ymarfer a pherffeithio, yn ei adael. Ai tybed fod y swydd o ddarlithydd cerddorol yng Ngholeg Caerdydd, gyda thâl o £100 y flwyddyn, yn ddigon o atyniad? Neu ynteu a oedd unrhyw fath ar gysylltiad â Choleg Prifysgol, a'r math ar status sydd ynglŷn â hynny, yn werthfawr yn ei olwg? Yn sicr, nid oedd rhaid i Joseph wrth ffyn baglau felly.

Yn ei bapur o flaen yr Undeb Cynulleidfaol yn 1888, cyfeiria at "Gadair Gerddorol ymhob Coleg" fel un o amodau ffyniant cerddorol Cymru, a diau gennyf yr edrychai ef ar y swydd o ddarlithydd fel y cam cyntaf tuag at hynny.[1] Tra y bu ef yn athro yn Aberystwyth, ni fu eisiau iddo fynegi ei ddelfryd mewn cynifer o eiriau, gan y tybiai ei fod eisoes, a Chymru hefyd, ar linell ei sylweddoliad. Ond yn ei anerchiad cyntaf wrth gychwyn ei academi yno, cawn ef yn cyfeirio at goleg cerddorol i Gymru, a'r un modd wrth gychwyn ei goleg cerddorol yn Abertawe. Gwelsom hefyd yr ymgais a wnaed ganddo i osod y coleg hwn ar "sylfaen changach." Etholwyd pwyllgor ac is-bwyllgor i dreio dwyn hyn oddiamgylch. Y mae y teitl uwchben hanes un o'r cyfarfodydd hyn yn awgrymiadol nid "Musical College of Wales" mwyach, ond "Musical College for Wales." Yr oedd yna anhawster yn ddiau i wneuthur coleg cenedlaethol a choleg Dr. Parry'n un o'r ddau yr oedd yn llai posibl na'i Lyfr Tonau Cenedlaethol. Rhwydd gennym gredu felly ei fod yn edrych ar y swydd ddistadl yng Ngholeg Caerdydd fel drws agored, os bychan, i gyfeiriad ei ddelfryd-os llwybr troed ydoedd, addawai arwain i'r briffordd fawr. Am yr un rheswm nid ydym yn rhyfeddu iddo geisio am yr un swydd, pan sefydlwyd hi, yn 1883, oblegid y pryd hwnnw prin yr ydoedd wedi dechreu bwrw gwraidd yn naear Abertawe. Y mae hanes yr ymgais hwnnw'n boenus

  1. Cym. "cylch ehangach o ddefnyddioldeb" yn ei Hunangofiant.