Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiddorol i ni yn hytrach ar gyfrif y camwri a wnaeth y Cyngor â dau o feibion glewaf Cymru yn ffafr un o genedl arall, na feddai gymwysterau cyfartal o lawer i'r eiddynt hwy. Y mac cynghorau colegau Cymru wedi bod yn euog o lawer anfadwaith—hollol gydwybodol wrth gwrsyn eu hamser, ond yn sicr ni wnaed dim mwy agored haerllug ac wyneb—galed na'r tro hwnnw. Allan o un ar ddeg o ymgeiswyr, gofynnwyd i bedwar, ac yn eu plith y ddau Gymro Dr. Joseph Parry a Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., ymddangos o flaen y cyngor, ond un arall o'r pedwar, yr hwn a eilw "Cerddor y Cymry"" yr efrydydd Templeton a etholwyd. Yn y bleidlais olaf, cafodd Mr. Jenkins naw fôt, a Templeton ddeuddeg. Yr oedd yr olaf yn ysgolor, ac yn B.A. o Gaergrawnt, wedi bod yn astudio ryw gymaint o amser yn y Leipsic Conservatoire, ac yn awr yn athro yn Harrow. "Gwelir felly," meddai'r "Gronicl," "nad yw Mr. Templeton ar y goreu ond yr hyn a elwir yn amateur cerddorol, ac o'i gymharu â'r ddau Gymro ag oedd yn cyd—gystadlu ag ef, y mae'n beth i synnu ato iddo gael ei apwyntio. Ond dywedir ei fod yn ddyn o amgylchiadau da, ac am ei fod wedi cael cefnogaeth rhai personau neilltuol, ac eraill o ddylanwad, llwyddodd." Un o gyfeillion Arglwydd Aberdâr," meddai Mr. Jenkins wrth adrodd yr hanes.

Mr. Joseph Chamberlain, onide, a ddywedai nad yw mwyafrif aelodau pob pwyllgor fel rheol wedi cymryd trafferth i ffurfio syniadau pendant ar y materion sydd i'w trafod, ac nad ydynt o ganlyniad namyn cŵyr parod i dderbyn argraff barn y lleiafrif pendant a phenderfynol, neu ddeunydd hyblyg i'w drin a'i drafod a'i redeg i fold eu hamcanion hwy. Ar gyngor coleg peth rhwydd oedd i ddau neu dri o fedr a phenderfyniad wneuthur llawer o berthynas Mr. Templeton à Chaergrawnt, ac yna â Leipsic (y dyddiau hynny), a llawer—i gyfeiriad arall o brinder manteision addysg bore oes y gweithiwr haearn o Ferthyr a Danville. Nid yw cynghorau o'r fath uwchlaw taro islaw'r belt"—yn ddeheuig, wrth gwrs; ac y mae gennym le i gasglu fod awgrymiadau ac ensyniadau ynghylch cysylltiad Parry ag Aberystwyth, a'i lwyddiant fel athro'n cael eu gwneuthur. Yr oedd ef ei hun yn