hyd y gwelaf yn ol yr adroddiad, a'r rheiny'n gyfyngedig i ddyddiau Iau a Gwener. Yn ddiweddarach, ynglŷn â'r graddau cerddorol, trymhaodd y gwaith yn fawr, fel y dengys adroddiad y Coleg.
Heblaw gwaith Coleg y Brifysgol, sefydlodd ef a Mr. Mendelssohn Parry ysgol eu hunain dan yr enw Ysgol Gerddorol y De, a'i thrigfan leol yn y Beethoven Chambers, ar gyfer y Coleg, ac yn ei "Gartref" ym Mhenarth.
Ym Mai, 1889, dewiswyd ef yn arweinydd yr "Orchestral Society" yng Nghaerdydd, swydd a ddaliodd hyd 1892, pan fu farw ei fab ieuengaf, Willie. Dan ei arweinyddiaeth ef, bu'r gymdeithas yn dra llewyrchus, enillodd wobrwyon pwysig yn y prif eisteddfodau (Porthcawl, Aberhonddu, Abertawe,[1] etc.), a bu'r cyngherddau blynyddol, yn y rhai y canai Mesdames Patti, Albani, a Nordica, yn eithriadol lwyddiannus ymhob ystyr.
Ymgymysgodd â bywyd Cymreig ac ymneilltuol y dref yn fuan. Cyn diwedd 1888, cawn ef yn traddodi ei ddarlith ar y prif feistri, gydag eglurebau cerddorol, ger bron y Cymrodorion. Wener y Groglith, 1889, efe oedd arweinydd cymanfa ganu'r Methodistiaid, at yr hon y cyfeirir yn nês ymlaen. Ynddi awgrymodd y dymunoldeb o gael sasiwn ganu undebol—hedyn gafodd ddaear i dyfu ynddi yn y ddinas. Ychydig yn ddiweddarach bu'n arwain cymanfa ganu'r Annibynwyr yno; tra yn niwedd Mai, rhoddodd Undeb Corawl Ebenezer ddatganiad o'r gantawd "Joseph" yn y Park Hall.
Nid hir y bu ei boblogrwydd cyn ennyn cenfigen rhywrai. Gwnawd ymosodiadau bryntion a dialw—amdanynt arno ym mhapurau Caerdydd. Condemniwyd ei gantawd a'r datganiad ohoni; ac yr oedd yn rhaid i ryw ohebydd sarrug lusgo ffrwydriad o'i eiddo yn eisteddfod Towyn i un o bapurau ei dref ei hun, dan y teit! "Y Beirniad mwyaf anffodus yng Nghymru" mewn llythrennau mor fras a'r rhagfarn y tu cefn. Yn lle dyfynnu'r pethau maleisus hyn, da gennym allu cyflwyno hanes awdurdodedig a theg o'i gysylltiad ag Ebenezer, Caerdydd, gan Mr. Gronow, i'r darllenydd:
- ↑ Ni arweiniai ef yn Abertawe am ei fod yn feirniad yno.