a'i fod yn ei chyfrif yn ddechreu cyfnod newydd yn hanes cerddoriaeth Cymru, na chai ef, efallai, mo'i weld yn ei anterth; ei fod ef wedi hir gredu ym mhosibilrwydd ysgol o gerddoriaeth nodweddiadol Gymreig, ac y profai y genedl yn y dyfodol ei bod yn meddu greddf gerddorol a dramayddol arbennig.
Ar bwys hyn, gofynnodd gohebydd cerddorol y "Western Mail" (dan yr enw "Zetus") mewn ysgrif ymosodol, sut na fuasai wedi meddwl am hyn pan gyhoeddwyd "Blodwen" bymtheng mlynedd yn flaenorol (deuddeng mlynedd fyddai'n gywir); ac aeth ymlaen i gyhuddo Dr. Parry o gerdd—ladrad, gan nad oedd Cytgan yr Helwyr," a'r "Dead March" yn gwneuthur dim ond atgynhyrchu rhannau o Rossini. Drwy enau y gohebydd gofynna Dr. Parry i "Zetus" ddatguddio ei hun a'i gred—lythyrau, pa beth a gynhyrchodd, pa ddiploma a feddai? yr hyn a'i gesyd yn agored i'r ateb nad oedd y prif feirniad Seisnig, Joseph Bennett, wedi cynhyrchu dim, ac nad oedd y prif gerddorion Seisnig yn meddu ar deitl o fath yn y byd! Am y gytgan, maentumia Parry mai dim ond y corn sydd yr un gan y ddau awdur, ac mai dim ond ym mrawddeg gyntaf y "Dead March" y mae tebygrwydd. Ymddengys na wyddai "Zetus" am y ddeuawd Eidalaidd ag y mae "Mae Cymru'n barod" yn "rhy debyg" iddi.
Ynglŷn â'r mater hwn dyma ddywed Dr. Protheroe: "Weithiau nid oedd yn orofalus am wreiddioldeb. Fe gafodd lawer o'i feirniadu am hyn. Yr oedd ganddo gof ardderchog—ac ar adegau fe fyddai rhywbeth a chwareuai ar yr organ neu y piano—yn suddo i mewn i'w gof, ac yn aros yno yng nghudd am dymor, ac yna yn dod i'r golwg yn sydyn—fel eiddo iddo ef. Dywedodd wrthyf un tro am ddyddiau ei astudiaeth gyda John Abel Jones a John Price, yn Danville. Yr oedd y cyntaf a chanddo grap go lew ar elfennau gwrthbwynt, a rhoddai wersi yn y gangen honno i'r cerddor bach pybyr oedd wedi newydd ddod i Danville o Ferthyr. Fel un o'i wersi fe ysgrifennodd ehetgan, ac aeth â hi yn llawn hwyl ac asbri at ei athro. Pan welodd hwnnw hi—gofynnodd i Parry paham yr oedd wedi gosod testun o eiddo Cherubini fel