Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un gwreiddiol. Atebodd yntau nad oedd wedi gweld dim o eiddo Cherubini erioed, a bod y testun yn eiddo iddo ef. Ar hynny, dyma'r athro yn dangos iddo gorawd o eiddo'r Ffrancwr enwog. Ymhen rhai dyddiau fe gofiodd Parry iddo fod yn canu alto mewn darn o eiddo Cherubini, yn debyg iawn wedi dysgu'r darn gyda'r glust, ac heb weld copi ohono, na chael unrhyw wybodaeth pwy a'i cyfan- soddodd. Heb fod ymhell o'm hen gartref yng Nghwmtawe y mae tair ogof, ac o un ohonynt fe ffrydia afon. Hyd y gwn i, ni ŵyr neb fan ei tharddiad, nac o ba le y daw y fath gronfa o ddyfroedd grisialaidd. Ond yno y mae, serch hynny. Efeallai ei bod yn y golwg yr ochr arall i'r Mynydd Du: 'does neb a wad y gwelir hi, efallai yn ymddolennu drwy rai o ddyffrynnoedd heirdd gwlad Myrddin, ond, yn sydyn ymguddia dan y Mynydd Du, a rhydd hwnnw amdo o redyn a brwyn amdani, hyd y daw i'r golwg yn ffrwd risialaidd ger Tan yr ogof.

"Fe ganodd y cerddor bach rai o gorawdau y meistri yng nghôr ei hen gynefin; syrthiodd y nodau euraid i'w galon, ac yno y buont yng nghudd am dymor, fel pe baent wedi eu rhoi dan glô gan ebargofiant. Ond yn sydyn, dacw ddorau yr awen yn ymagor, a'r nodau a ganwyd gynt yn dod yn fyw i'r côf, a'r cerddor, yn hollol naturiol, yn priodoli y cyfan i'w awen ei hun, ac wedi llwyr anghofio canu y darnau yn yr hen wlad!"

Rhaid bod yn ofalus cyn cyhuddo neb o lên neu gerdd-ladrad. Y mae hwnnw, bid sicr, yn lleidr, a gymero ac a ddefnyddio waith un arall fel ei eiddo ei hun, heb i hynny gostio dim llafur pellach iddo mewn cymhathu, atgynhyrchu, a rhyw fath ar greu o newydd." Y mae cof gafaelgar—heb fod yn gof manwl—yn gryn rwystr i wreiddioldeb; y mae yna berigl i syniadau, cyfuniadau, melodion, a drysorwyd yn y cof heb yn wybod inni i godi i fyny i'r wyneb gyda holl swyn, a ffresni, ac apêl creadigaethau newydd. Wrth gwrs byddai cof mwy perffaith yn cofio mai nid ein heiddo ni mohonynt. "Gall melodi a glywsom yn nyddiau maboed," meddai Emlyn, "ddod yn ol yn ei chyfanrwydd flynyddoedd ar ol hynny; gall mai ein heiddo ni ydyw, o ran hynny, ond pa mor bell y cydnebydd y byd hynny sydd gwestiwn; eithr ofer