Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. " Bachgen Bach o Ferthyr, erioed, erioed."

Hunan-gofiant:

O DYDI anweledig a byth-symudol amser! Yr wyf wedi fy nghludo ar dy adenydd drwy drigain o'th flynyddoedd buain. Cwyd gwawr blwyddyn arall (1902) y llen, ac yr wyf fel yn byw fy mywyd drosodd eto; daw atgofion hoff a chysegredig ger fy mron, megis mewn breuddwyd. Yr wyf eto yn yr hen gartref annwyl lle'm ganwyd ar yr 2iain o Fai, 1841, a lle y treuliais ddyddiau babandod a bachgendod, sef yr ail dŷ yn Chapel Row, Merthyr Tydfil, Deheudir Cymru. Yr wyf yn blentyn unwaith eto ym mreichiau fy mam, a daw nodau ei chân eto i'm clyw—nodau y gallai engyl genfigennu wrthynt. Yr wyf hefyd yn eich gweld chwithau, fy annwyl dad, fy chwaer Ann, a'm hunig frawd Henry, ac er eich bod oll wedi gadael y bywyd hwn, yr wyf gyda chwi eto, a chyda chwithau, fy nwy chwaer sydd yn fyw. 'Rwy'n gweld y coed poplar tal blannwyd gan ddwylo fy mam yn dyrchafu ymhell uwchlaw pennau'r tai, y blodau hardd, yr hen gamlas y gwaredwyd fi ohoni fwy nag unwaith ("gerfydd fy ngwallt" wedi ei groesi allan); y chwareule hefyd gyda chwi, fy nghyd-chwareuwyr bore, yn sẁn seindorf enwog y Gyfarthfa a ddaw o'r pellter; yna yn eich dilyn chwi, wŷr y seindorf, fel y cenwch gan ymdaith drwy heolydd Merthyr, a'ch cerddoriaeth megis yn diwallu fy enaid yn fwy nag y diwalla bwyd y corff.

Yr wyf eto gyda fy mam yn fy hen fam-eglwys—Bethesda, a minnau yn y côr yn hogyn yn canu alto, a'm dyfodol frawd yng nghyfraith yn arwain. Y mae ei seinfforch eto'n torri'n ddarnau yn ymyl yr hen stove, drwy iddo ei lluchio ataf i a bechgyn eraill yr alto am na ddeuem yn nês at y côr na chil-edrych o ddrws y ffrynt, er mawr flinder iddo. Yr wyf yn naw mlwydd oed ac yn gweithio fel pit boy yn y lofa (Pwll Roblins) am hanner coron yr wythnos, a