Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

phan yn ddeuddeg oed yn mynd i waith y Gyfarthfa; ac ar nos Sul, ar ol y gwasanaeth a'r ysgol gân a swper, yn newid fy nillad i fynd i'r gwaith ganol nos. Bob prynhawn Sul yr wyf yn y Temperance Hall yn canu alto yng nghôr Rosser Beynon. Yr wyf hefyd yn bresennol ym mherfformiad Twelfth Mass (Mozart), gyda chyfeiliant offerynnol cyflawn, ac yn canu alto yn un o'r saith côr a gystadleuodd ar ganu " Teymasoedd y Ddaear," pryd y rhannodd y beirniad, Mr. Evan Davies, Abertawe, y wobr o saith gini rhwng y saith.