Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mynyddoedd rhyfedd hyn am 716 o filltiroedd. Am ddau y prynhawn cyrhaeddaf ben fy nhaith. Daw dirprwyaeth i'm cyfarfod, ac i'm cludo i'm hotel, lle mae suite o dair ystafell wedi ei sicrhau i mi. Y mae'r ddinas a'i phobl yn nefoedd wirioneddol o garedigrwydd. Cymerir fi drwyddi, gyda'i holl swynion, a'i 80,000 preswylwyr (twf dwy flynedd a deugain). Yn orweddog mewn cawg enfawr ac yn gylchynedig gan y Rockies, gyda'i hinsawdd berffaith, ei strydoedd, ei barciau, ei adeiladau, a'i eglwysi—rhyfeddol yn wir yw'r byd mewnol neilltuedig hwn! Mawr ddifenwir a chamddisgrifir y cyfeillion Mormonaidd, y rhai sy'n enwog am eu lletygarwch a'u haelioni. Y mae eu cartrefi, a'r rhai yr ymwelais yn ddyddiol, yn debyg i gartrefi eraill Ewrob ac America. Y mae y Tabernacl ysblennydd, gyda seddau i 10,000 o bobl, a'r côr, gyda seddau i 600, o nodweddion clywiadol eithriadol, heb na cholofn na hoelen—yn sefyll ar safle brydferth dros ben. Y mae'r Deml hefyd yn nodedig am ei phrydferthwch y tu mewn a'r tu allan.

Cyflogir trên i fynd â mi gyda llawer o ffrindiau i'r Llyn Halen, rhyw dair milltir ar ddeg allan: (mesura) 120 milltir o hyd, ac ugain o led, ac y mae ei ddyfroedd seithwaith mor hallt ag eiddo'r môr.

Gwahoddir fi i ymweld ag Ogden, dwy filltir ar bymtheg ar hugain yn nês i lawr, lle y mae'r gallu trydanol i oleuo'r ddinas; a daw'r Maer a'r Gorfforaeth i'm cyfarfod—un ohonynt yn Joseph Parry arall eto. A'r côr, a'i arweinydd ieuanc galluog â mi am bicnic i'w canyon enwog, pellter o wyth milltir, a chawn bryd llawen yno treulir dydd o'r fath a lŷn ar dudalennau'r cof.

Cynhelir yr eisteddfod yr wythnos gyntaf yn Hydref, yn ystod ein cynhadledd. Y mae o 10,000 i 15,000 yn bresennol. Y mae pump o gyfarfodydd eisteddfodol. Cystadleua chwech côr ar ddatganu fy nghanig "Ar Don"—canu da, fel wythnos o Gymru yn y Rockies.

Traddodaf fy narlith ar y meistri yn y Tabernacl i gynulleidfa fawr, fel y gwneuthum mewn amryw ddinasoedd