Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar fy nhaith i'r gorllewin. Anrhydeddir fi, hefyd, â pherfformiad arbennig o opera yn eu chwareudy gwych a adeiladwyd ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Y mae yr holl gwmni, y corws, y datganwyr, y gerddorfa, yr actio, a'r golygfeydd yn peri i mi deimlo fel pe bawn yn Llundain.

Cyfarfyddaf â dau hen gwpwl o hen gapel Bethesda, Merthyr, y rhai a adwaenent fy nhad a fy mam, fy chwiorydd, fy mrawd, a minnau pan yn fachgennyn. Siaredir Cymraeg ar y strydoedd fel ym Merthyr ac Aberdâr. Y mae darluniau (da iawn) ohonof ar hyd y ddinas i gyd, ac am unwaith yn fy mywyd, myfi yw arwr bach y ddinas, a threfnir gwledd fawr i'm anrhydeddu.

Y mae fy hen gyfeillion annwyl Judge Edwards a'i briod siriol wedi cyrraedd efe yw arweinydd yr eisteddfod, a gŵyr pawb yn dda y fath arweinydd yw.

Amser! yr hwn wyt fyth fel y môr yn dy aflonyddwch, dygi'r ymweliad byth-gofiadwy hwn i derfyn. Rhaid i mi eto eich gadael, fy annwyl gyfeillion, fel yr wyf mewn atgof wedi mwynhau fy ymweliad â chwi. Yr wyf wedi teimlo'ch calonnau cynnes, ac wedi gweld eich wynebau hawddgar unwaith eto. A gaf fi ymweld â'ch dinas eto? Un o'm dymuniadau i yw gwneuthur hynny.

Fore Sul, am wyth o'r gloch, yr wyf yn y trên, a llawer o gyfeillion yn fy ngweld i ffwrdd. Teithiaf y Sul ddydd a nos, y Llun ddydd a nos, Mawrth ddydd a nos, Mercher ddydd a nos, a dydd Iau hyd dri o'r gloch, pryd y cyrhaeddaf New York mewn pryd i ddal fy llong, y Campania, am gartref (fy neuddegfed mordaith). Yr wyf gartref eto ar ol taith fy mywyd—taith o 4000 o filltiroedd.

(Am gyfansoddiadau'r flwyddyn hon, gwêl y Rhestr.) 1899 a'm ca gyda pharti o bedwar (quartette party) ar fy nhrydedd mordaith ar ddeg i America ar fwrdd y Lucania, i roddi cyfres o gyngherddau a rhannau o'm operâu. Bum yn absennol tua deufis. Rhoddwyd cymaint o le i daith y flwyddyn ddiweddaf, fel y rhaid gadael allan hanes y daith hon.

(Gwêl y Rhestr.)