Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

opera "His Worship the Mayor"; ac yna fy wythfed "Y Ferch o'r Scer." Ond y mae oediad yn oeri brwdfrydedd, ac yn rhoddi bod i'r un drwg, i glaearineb, diflastod, a musgrellni.

Daw'r Nadolig eto, ac yr wyf finnau ym Mhontypridd y Nadolig a'r dydd dilynol yn arwain fy nau waith,—"Nebuchadnezzar" a "Ceridwen" (in character); ac er mai dim ond rhesymol yw'r datganiad—fel, yn anffodus, y mae'n gyffredin gyda'm gweithiau i—atynnant gynulliadau mawrion a chymerant yn dda. Dyma fy unfed Nadolig a thrigain.

Fel hyn, o dydi, drên amser! nid yw dy funudau, oriau, dyddiau, wythnosau, misoedd, a blynyddoedd, ond megis cerbydau, a ninnau, feidrolion, yw'r teithwyr. Ac y mae gennyt dy flynyddoedd fel gorsafoedd, neu derfynfaoedd, i ddosrannu a dynodi taith fechan ein bywyd. Ac yna cyn hir ti a'n cludi i'r orsaf olaf a elwir y bedd.

Ddychymyg! ti ddrych y gorffennol, a phroffwyd y dyfodol, ydwyt wedi arddangos ar ganfas fy meddwl holl olygfeydd gorffennol fy mywyd; er eu bod wedi eu claddu ers amser hir ym medd anghofrwydd, ti a ddygaist y cwbl yn ol megis drwy wyrth, i fyw eto yn y presennol fel mewn ail fywyd.

Och! dyma fy ngeiriau olaf, y rhai sydd i'm llygaid, a'm clustiau, a'm calon fel galargân (requiem), canys dynodant oriau marw fy unfed blwyddyn a thrigain. Canys yfory ar fy nydd pen blwydd, byddaf yn dechreu pennod arall yng nghyfrol fy mywyd. Y mae fy mywyd gorffennol a'm llafur yn cynnwys llawer i fod yn ddiolchgar o'i blegid. Y mae fy opera, "The Maid of Cefn Ydfa," hwre! wedi ei gorffen. Y mae Mr. Bennett wedi fy anrhegu â'i libretto odidog fel prawf o'i ddymuniadau da i mi, ac y mae'r pwyllgor, fel prawf o'u ffyddlondeb i mi, a'u hamcanion eu hunain, wedi trefnu drwy Mr. Bennett a Mr. Manners—i berfformio'r opera yma yng Nghaerdydd, Rhagfyr nesaf, gan y Moody-Manners Opera Company. Y mae y ffaith mai dyma fy nawfed opera—yn gwneuthur chwech ar hugain o weithiau,