Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Flow, flow, generous fount,
Glass of charming faces;
Who can tell but a knight or count
May take us for the graces.
Fal, la, la, etc.

Bloom, bloom, flower of life,
Tho' the roses wither;
Who, alas! would be a wife,
Who would not be one either!
Fal, la, la, etc.


Ceir digon o "gysgod"—neu "wawr"—yng nghytgan y mynachod:

For He knoweth our frame,
He remembereth that we are dust,
As for man, his days are as grass, etc.


Er mai yn 1900 y gorffennwyd yr opera, bu yn y gŵydd am rai blynyddoedd, yn wir gryn lawer yn hwy na'r rhan fwyaf o weithiau'r awdur; oblegid ar ddiwedd y tair cyfrol (gydag act ymhob un) cawn a ganlyn:

Cyfrol I—Scored 27th June, 1900.
Cyfrol II—13th February, 1897; Scored 11th July, 1900.
Cyfrol III Finished Monday, p.m., 2nd January, 1899.—J.P.

The last note of the scoring finished now Saturday, 9.30 p.m. 1st September, 1900."

Gwelir wrth hyn iddi gael ei dechreu—os nad yn 1896, o leiaf yn gynnar yn 1897, ac felly ei bod yn berthynas agos i "Cambria a Ceridwen."

Yn y "Cerddor" am Mawrth, 1897, darllenwn a ganlyn: "I bobl mor wladgarol a'r Cymry, nid tebyg y bydd i hanes eu dewrion byth apelio atynt yn ofer. Er hynny, nid ydym wedi gwneuthur yn agos i'r hyn a allesid yn y cyfeiriad olaf. Y mae Talhaearn a Phencerdd Gwalia wedi canu ar 'Llewelyn,' ac Eos Bradwen ar 'Owain Glyndwr, ond ni ellir ystyried fod y naill destun na'r llall wedi ei ddihysbyddu ganddynt. Y mae J. D. Jones, hefyd, wedi bod yn ymwneud â Llys Arthur,' ond y mae Arthur ei hun yn parhau yn ei gwsg hirfaith; tra y mae Caradog a Buddug, Gruffydd ap Cynan, Syr Rhys ap