Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tomos, Picton, a gwroniaid lawer eraill yn aros ymddangosiad y bardd a ddaw ryw ddydd 'i roddi anadl bywyd ynddynt hwy a'u hanes." I ba raddau y llwyddodd y bardd a'r cerddor i roddi anadl bywyd yn hanes Arthur sydd gwestiwn na ellir mo'i benderfynu eto; ond y mae'n amlwg fod Parry wedi gosod ei "gorn ffraeth o saernïaeth nef," a llawer offeryn arall i'r gwaith o'i ddadebru ef, a gwroniaid eraill hanes Cymru.

Yn ei hunan—fywgraffiad dywed wrthym iddo gyfansoddi "His Worship the Mayor," a'r "Ferch o'r Scer" pan yn aros i Mr. Bennett orffen ei libretto fwy pwysig. Gwyddom eisoes mai amhosibl oedd iddo fod yn llonydd, neu wneuthur dim; ond peth newydd yn sicr, yn ei hanes ef, yw gwneuthur cyfansoddi opera neu ddwy yn fath ar ddifyrrwch oriau hamdden. Ni ryfeddem at ei waith yn troi allan nifer o ganeuon a thonau, neu hyd yn oed rangan. Ond tebyg mai anodd i'r capten llong, pan fo'r llanw wedi dod, a'r awel o'i du, ac yntau wedi lledu ei hwyliau ar gyfer mordaith bell, yw rhoddi'r fordaith bell i fyny, a rhedeg ar negeseuau gyda'r glannau, i borthladdoedd bychain yn ymyl—rhai y gallai smack eu gwneuthur lawn cystal.

Bid a fynno, pleser yw deall ei fod yn gallu "gwenu"— a chwerthin—"ar y stormydd oll," oblegid chwerthin mae'r bardd a'r cerddor ar ben y pwysigrwydd bychan sydd yn troi o gylch swyddi a swyddogion trefol yn ei opera, "His Worship the Mayor" Ar hon dywed awdur y geiriau, Mr. Arthur Mee ("Idris" y "Western Mail"): Yr oedd Dr. Parry a Mr. Lascelles Carr yn dra chyfeillgar, ac ymddengys iddynt gynllunio gwaith o'r fath rhyngddynt a'i gilydd. Yr oedd Dr. Parry'n frwdfrydig iawn yn ei gylch. Cytunwyd mai fi oedd i ysgrifennu'r telynegion, ac aelod arall o staff y 'Mail' yr ymddiddan. Cyfansoddais y penhillion, ac yr oeddynt yn dderbyniol. Gosododd Parry hwy i fiwsig, a miwsig tlws odiaeth ydoedd, yn neilltuol cân y Maer a chân y Town Clerk. Yn anffodus ni fu'r un llwydd gyda'r ymddiddan. Gadawodd y cyntaf a gymerodd at y gwaith am Lundain, a gwnaeth yr ail gawl ohono, fel ag i'n bwriad druan ddiflannu bob yn dipyn mewn mwg. Un noson acaf ddifrifol o oer a llithrig gwahoddodd Mr. Carr Dr. Parry a minnau i'w dŷ i ystyried