y mater. Yr oedd yn ganol nos neu ragor pan ymadawsom, a chan fod y trên olaf wedi hen fynd, danfonodd Mr. Carr ni adref mewn cab. Yr oedd y ffyrdd fel gwydr. Disgynnodd Parry ym Mhenarth, ac euthum innau yn fy mlaen i Gaerdydd. . . . Cofiaf ofyn rhai cwestiynau i Parry ynghylch ei dôn Aberystwyth,' ond, er syndod i mi, nid ymddangosai ei fod yn gwybod sut y daeth i fod, nac yn cysylltu llawer o bwys â hi o gwbl![1] Ni wn beth ddaeth o eiriau His Worship the Mayor'—yn wir ni wnaed nemawr ddim oddigerth fy ngeiriau i—a'r miwsig wrth gwrs. Bwriadwyd y peth i fod yn fath ar skit ar fywyd dinesig, a'i arferion—dyna'i ergyd mewn ychydig eiriau."
Da gennym allu hysbysu'r telynegydd a'r darllenydd fod y geiriau a'r gerddoriaeth ar gael. Gwelir eu natur oddiwrth y penhillion a gân y Maer:
A mayor I am of high degree,
They're envious all who speak of me,
An honour surely 'tis to be
The Mayor of Slocum Podger.
Ac yna, wedi derbyn anrhydedd uwch:
Behold his majesty's command,—
The nations hear, I understand—
Proclaimed am I on every hand
Lord Mayor! Lord Mayor! Lord Mayor
Of Slocum Podger!
Diddorol sylwi mai tenor a gân y Maer, tra mai baritone yw'r Town Clerk. Y dyddiadau ar y copi yw 24th Nov., 1900 a 28th March, 1901.
Yr oedd wedi dechreu'r opera "Y Ferch o'r Scer" yn flaenorol oblegid y dyddiad ar y gyfrol gyntaf yw 17th Feb., 1900, ond yn awr y'i gorffennwyd. Y teitl ar y copi yw "Maid of Scer—Bronwen—(A Romantic Opera)." Ond er mai canolbwnc y libretto yw rhamant garwriaethol y Ferch o'r Scer, gorwedd llawer o'i diddordeb yn y disgrifiad
- ↑ Prawf arall o'r hyn ddywedwyd ar tud. 79, oblegid pe buasai'r dôn wedi ei chyfansoddi dan amgylchiadau eithriadol, diau y buasai'n cofio hynny.