Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/229

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a rydd o fywyd gwledig yr oes o'r blaen, a phe perfformid hi, byddai'n sicr o ddod yn boblogaidd ar y cyfrif hwnnw. Dwg yr act gyntaf ni i faes y cynhaeaf, lle y ceir Orchestral Rustic Harvest Dance; yr ail i'r Ffair, lle y cawn Orchestral Fair Dance; a'r drydedd i dŷ'r Briodas, llawn o Bridal Music, a Chorws y Village Bells. Y brif soprano yw'r Ferch, a Twm Ifan y prif denor; cawn ddau faritone poblogaidd yn yr Hen Ganwr Baledau, a'r Cheap Jack (â'i Buffo Song) yn y Ffair, tra y dygir Gipsy i mewn i ganu contralto.

Y dyddiadau ar ddiwedd y gyfrol olaf yw 13th Sept., 1901, ac 9th Oct., 1901.

Ni raid ychwanegu geiriau i chwyddo clodydd y pwyllgor o "gyfeillion yn wir" a gyflogodd Mr. Joseph Bennett i ysgrifennu libretto opera i Parry, a chwmni Moody-Manners i'w pherfformio—"fy mhwyllgor" fel y geilw ef gyda thinc o anwyldeb. Yn ei symlrwydd diystyr disgwyliai'r cerddor i'r bardd fod mor awyddus i gyfansoddi'r geiriau ag oedd ef ei hun i ysgrifennu'r gerddoriaeth, ac y byddai'n mynd at y gwaith yn gyntaf peth. Siomwyd ef yn hyn, ond o'r diwedd fe ddaeth y geiriau, a gorffennwyd yr opera: opera mewn tair act ar hanes adnabyddus y Ferch o Gefn Ydfa, wedi ei drin a'i drosi gan y bardd i'w wneuthur yn gyfaddas i ofynion chwareugerdd.

Cychwynna'r act gyntaf yn aelwyd Cefn Ydfa; ä'r ail â ni, drwy ddyfeisiau i wahanu'r cariadau, i'r Eisteddfod; a dwg yr olaf ni at wely marw Anne. Y mae yr opera, yn ol yr hanes, yn llawn tlysni; unawd Anne ar ei gwely angeu, yn ol un beirniad, yn un o "swyn ysbrydoledig." Y peth a'n tery hynotaf ynddi yw gwaith y cerddor yn gwneuthur i dorf yr Eisteddfod ganu "Crugybar"; dengys hyn ddiffyg barn, beth bynnag am ddiffyg chwaeth, oblegid, hyd yn oed a chaniatâu fod y dôn a'r Eisteddfod yn gydnaws â'i gilydd, a bod "Crugybar" yn bod yn amser Wil Hopkyn, pwy erioed glywodd sôn am ganu tôn yn yr hen eisteddfod? Gwir mai 'alaw' Gymreig yw Crugybar," ond yng nghysylltiadau'r opera tôn ydyw, a thôn ydyw i ni heddyw.

Cafodd Parry—yn gystal a'i gyfeillion ei fodloni'n fawr; oblegid er ei fod wedi gorffen ac arwyddnodi ei