Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/239

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXVI. Lle Dr. Parry yn Natblygiad Cerddoriaeth Gymreig.

Gan Daniel Protheroe, Mus. Doc.

I—Fe ddywedai rhywun un tro, "nid oes neb yn wir fawr, os mai mawr yn unig yn ystod ei fywyd y bydd "— rhaid iddo gael ei fesur a'i bwyso wrth y dylanwad erys ar ei oes, ac ar y rhai sydd yn dilyn. "Bid glod, bid farw " meddai'r hen ddihareb, ond y mae yn rhaid i wrthrych y clod" er wedi marw, lefaru eto "cyn y bydd ei ddylanwad yn arhosol.

Y mae yna duedd mewn rhai cylchoedd i edliwio i'n cenedl na fagwyd eto gerddorion mawr a byd—enwog yng Nghymru. Ieuanc yw'r gelfyddyd yn ei ffurfiau uwchaf yn ein mysg. Ond eto dyma Tanymarian yn cyfansoddi "Storm Tiberias "—ac Ambrose Lloyd yn rhoi i ni "Weddi Habacuc "—a'i anthem "Teyrnasoedd y ddaear "—a'i rangan, "Y Blodeuyn Olaf "sydd mor llawn o berarogl cerdd hyd heddyw.

Yr oedd y ddau hyn ynghyd ag Owain Alaw yn rhyw fath ar arloeswyr y ffyrdd. Ar ol yr arloeswyr hyn dyma driawd disglair yn dod i'r golwg yn Gwilym Gwent, David Lewis, Llanrhystyd;[1] a John Thomas, Llanwrtyd. Yr oedd hyn tua dechreu y "trigeiniau." Ymunwyd â hwynt gan Joseph Parry—yr hwn oedd wedi ymfudo— rai blynyddoedd cyn hynny, i Danville, Unol Daleithiau. Yn ddiweddarach fyth fe ymddangosodd seren arall yn Emlyn Evans—a bu cerddoriaeth arobryn Cymru yn nwylo y pumawd hyn am dymor.

  1. Os ychwanegwn enw Mr. David Lewis at y pump a nodir (Cofiant D. Emlyn Evans) gan Mr. David Jenkins fel prif gerddorion y "deffroad" yng Nghymru, ac enw Mr. Brinley Richards at y pump blaenorol, diddorol sylwi fod tri o'r rhai olaf a nodwyd o'r De, a thri o'r Gogledd, tra y mae'r chwech arall o'r De—tri o Ddyfed (Sir Aberteifi), a thri o "fwg Morgannwg a Gwent,' ond fod rhieni un o'r rheiny eto o Ddyfed (y tad o Benfro a'r fam o Sir Gaerfyrddin).