Dyma adeg y Rhyfel Cartrefol yn y Taleithiau—brawd yn erbyn brawd—teuluoedd yn erbyn ei gilydd, a'r wlad mewn cyni mawr. Abram Lincoln yn y gadair lywyddol yn ceisio cadw yr undeb—dyna ei bwnc mawr ef—yna rhyddhau'r caethion wedi hynny.
Fe greodd y cyfwng hwn aml i don felodus a chyrhaeddgar—aml i gerdd a fydd byw yn hir mewn ystyr wladgarol. Dyma'r adeg y daeth "Marching through Georgia," "Tenting in the old Camp-ground," a'r "Battle Hymn of the Republic" i fri mawr. Ganwyd hwy o gyni'r genedl. Mawrygent serch at y wlad: rhoddent fynegiant i deimladau dwin a'r cyfan yn gwbl naturiol a diorchest.[1]
Pan y cofiwn fod Parry yn llygad—dyst o'r brwdfrydedd a'r cynhyrfiad a feddiannai bawb yr adeg honno, a'i fod wedi cyfansoddi darnau llafurfawr yn barod, y mae yn syn na roddodd fod i felodion poblogaidd, alawon gorym— deithiol y gellid eu canu gyda hwyl, oherwydd yr oedd yn wir awenydd. Ond, gyda'r eithriad o'r gân, "The American Star," yr hon a ddaeth yn boblogaidd wedi hynny yng Nghymru dan yr enw Baner ein Gwlad," ni wn am ddim a ysgrifennodd i roi mynegiant i deimladau angherddol y cyfnod, nac i gyfarfod â'r galwadau mynych am ddarnau gwladgarol. Daliodd Parry i ddatblygu ei bwerau cerddorol, a daeth yn adnabyddus iawn i Gymry'r Taleithiau. Yr oedd Cymry y cyfnod hwnnw yn tyrru fwyaf i Pennsylvania ac Ohio, ac Efrog Newydd, er fod yna lu yn wynebu'r Gorllewin ac wedi ymsefydlu yn y Taleithiau Canol-Orllewinol—a rhai hyd yn oed wedi mentro mor bell a glannau y Tawelfor.
Y mae Cymry'r America yn ddiarhebol am eu caredigrwydd, yn enwedig i ymwelwyr o'r Hen Wlad. Faint o bregethwyr sydd wedi bod yn rhoi tro drwy'r wlad, ac yn
- ↑ Yn y Rhyfel Mawr (1914—1918) nid oes braidd ddim parhaol wedi dod allan o'r terfysg erch. Gwir fod yna aml i gerdd farddonol wedi ei hysgrifennu a fydd byw—ond yn gerddorol—pur ddilewyrch ydyw'r cyfansoddiadau. Daear garegog—sych a diddwfr ydyw y rhan fwyaf ohonynt. Efallai y ceir gwaith anfarwol eto pan yr edrychir yn ol, ac y pwysir y delfrydau y gwelir gogoniant y person hwn a'r cyflawniad arall—ac y daw y byd i weld ardderchowgrwydd yr adgyfodiad, ar ol ing a chyni'r croeshoeliad.