cael croeso mawr! Fe ga y cerddorion hefyd eu derbyn â breichiau agored. Naturiol felly oedd i lwyddiant y gŵr o Danville ennyn edmygedd ei gyd-genedl. Ymfalchïent yn ei fuddugoliaethau eisteddfodol.
Ond nid yn aml y daw y fath gefnogaeth ag a gafodd Parry. Fe grewyd trysorfa i'w gynorthwyo. Yr oedd. hyn yn wrogaeth fawr i'w dalent. Fe welir gymaint y mae hyn yn feddwl pan gymerir i ystyriaeth faint y wlad, a'r pellter mawr sydd rhwng y sefydliadau Cymreig. Dyna Dalaith Illinois fil o filltiroedd o Dalaith Efrog Newydd, a phan yr oedd Parry yn byw yma, nid oedd cyfleusterau teithio yr hyn ydyw yn bresennol. Yr oedd y Cymry yn falch o'u harwr, a dangosasant hyn drwy danysgrifio dros ddwy fil a hanner o ddoleri tuag at ei addysg.
Ar ol cwrs llwyddiannus yn yr Academi—a chroeso mawr gan Gymry yr Hen Wlad, dychwelodd i Danville, ac yno agorodd ysgol gerddorol. Aeth amryw o gerddorion gobeithiol ato i dderbyn addysg. Efallai mai y mwyaf adnabyddus ohonynt oll ydyw y cerddor a'i dilynodd fel athro yn Danville, ond yr hwn a ddychwelodd ar ol hynny i'w hen gynefin yn Wilkes Barre, lle y mae heddyw yn fawr ei barch a'i ddylanwad ym myd y gerdd—Doctor D. J. J. Mason, brodor o Drecynon, Aberdâr.
Anodd yn awr ydyw penderfynu faint fu dylanwad Parry ar gerddoriaeth y dalaith, drwy ei ysgol gerddorol yn Danville. Hyd yn oed yr adeg honno, Scranton a Wilkes Barre oedd cartrefle'r gân ymysg ein cenedl, ac yr oedd y trefi cylchynnol, megis Plymouth, Kingston, Pittston yn frwdfrydig dros yr eisteddfod. Yn Plymouth y bu Gwilym Gwent fyw, ac yno y bu farw, ond claddwyd ef yn Wilkes Barre.
Wrth ymddiddan â rhai o gerddorion y cyfnod hwnnw nid oes hanes i Parry gario y dylanwad a allasai ar ddatblygiad y gerdd ymysg ei gyd-genedl.
II. Pan ddeffrôdd y genedl Gymreig i weld gwerth addysg yn ei ffurfiau uchaf,—ac i ddyheadau dyfnaf gwerin Cymru gael eu sylweddoli yn sefydliad ein coleg cenedlaethol cyntaf yn Aberystwyth-yr oedd sefydlu cadair gerddorol o bwys mawr.