Mwy pwysig fyth oedd cael un cymwys i'w llanw. Da gennym nad edrychodd Cyngor y Coleg dros Glawdd Offa. Tuedd sydd ynom i ormod o Sais-addoliaeth, ond yr oedd talentau disglair, galluoedd amlwg, ac ysgolheigdod y cerddor o Danville yn hysbys i'r genedl, ac efe yn naturiol a alwyd i'r swydd. Nid yw y Cymro o'r un anianawd a'r Sais, a rhaid i'r olaf gael ei ail-eni—gyda gwybodaeth gyflawn o'r iaith Gymraeg, cyn byth y llwydda i gario'r dylanwad dyladwy ar y genedl. Eto fe geir, hyd yn oed "yn y dyddiau diweddaf hyn" Gymry sydd yn hoffi cael gwedd Seisnigaidd ar bopeth, gan anghofio tân y Celt, ei ramantusrwydd, ei ddelweddau, a'i frwdfrydedd angherddol.
Ymhob celfyddyd fe geir cyfnodau y ceir artists yn torri tir newydd ynddynt, ac yn dangos i'r byd liw newydd ar hen destunau.
Dyna Rembrandt yn Holland yn rhoddi dehongliad newydd ar gynfas o fywyd y Gŵr o Nasareth, ac yn portreadu gwedd ddynol y Gwaredwr, fel rhywbeth gwrth-gyferbyniol i'r hen artists Italaidd, y rhai a'i gwnai Ef yn un pell, ac anodd dynesu ato—un yn hollol groes i'w eiriau Ef Ei hun: "Deuwch ataf fi, bawb ag sydd yn flinderog ac yn llwythog." Y mae dylanwad y cyfnod yna i'w weld yn amlwg ar yr artists ddaeth ar ei ol. Ym myd y gerdd fe greodd Wagner chwyldro yn y dull o drin chwareu-gerddi, drwy roi testun dynodol i bob cymeriad. Gwir fod Berlioz wedi mynd ymhell yn ei driniaeth o'r gerddorfa, eto fe gyd-grynhowyd yr oll o'r pethau yn Wagner, a roddodd ystyr arall i gynghanedd. Yr oedd ei wrthbwynt yn llifo gyda'r un llyfnder a gweithiau anfarwol Bach, a rhoddodd i ni gerddoriaeth a wnai i ni feddwl am "ddyfnder yn galw ar ddyfnder." Fel pob gwir arloeswr, yr oedd ganddo lu o elynion a beirniaid, y rhai a'i gwawdiai ef yn barhaus; ond erbyn hyn fe gydnabyddir yn bur gyffredinol mai ef yn ddiau oedd cerddor mwyaf athrylithgar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hyd ddyfodiad Parry y wedd leisiol a gymerai yr awen Gymreig, a chul iawn oedd ei dychymyg. Gyda'r eithriad o eiddo Tanymarian, Ambrose Lloyd, ac