Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/243

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Owain Alaw, anthemau, canigau, a thonau cynulleidfaol oedd y ffurfiau y cyfansoddid ynddynt.

Yr oedd amddifadrwydd y cerddorion o fanteision i wrando cerddoriaeth offerynnol yn milwrio yn erbyn datblygiad yn y wedd hyn o'r gelfyddyd. Tra yr oedd. dinasoedd y Cyfandir â'u cerddorfäu, anfynych y clywid y gerddorfa lawn yng ngwlad y bryniau. Pa le yng Nghymru, tybed, y cafwyd y perfformiad cyntaf o un o symffonïau Beethoven?

Yr oedd cyfeilwyr da, hyd yn oed ar y piano, yn brin, a chanai y rhan luosocaf o'r corau heb gyfeiliant. Nid oedd hyn, efallai, yn anfantais i gyd, oherwydd yr oedd y dôn leisiol yn cael ei choethi, a'r donyddiaeth yn cael mwy o sylw, a'r corau yn medru cadw y traw—heb gymorth ffyn-baglau offerynnol.

Yn y cyfnod hwn dyma Joseph Parry yn ysgrifennu darnau annibynnol i'r offerynnau, yn nyddiau ei efrydiaeth yn yr Academi, ac wedi hynny cawn iddo gyfansoddi cerddi barddonol i'r gerddorfa, gan gymryd ambell i hen stori Gymreig fel sylfaen y gwaith. Yr oedd yn rhaid portreadu drwy sain, heb gymorth geiriau, holl symudiadau y stori.

Mewn un o'i weithiau cerddorfaol fe geisiodd wisgo "Inferno" Dante mewn nodau cerddorol; aeth dros y gwaith i mi un tro. Ymysg ei wahanol draeth—destunau, cymerodd yr hen dôn Gymreig Bangor fel ei sylfaen pan yn rhoi mynegiant i gri y colledigion. Gofynnais iddo a oedd yn tybio mai Cymry yn unig a fyddai yn golledig. Atebodd yntau ar unwaith: "Never thought of it in that way, my boy," a chwarddodd yn iachus.

III. Yn ei gyfnod boreol ysgrifennodd ran—ganau anthemau, motetau, a bu yn fuddugol ar gantawd yng Nghaerlleon. Wedi dychwelyd i Gymru ysgrifennodd nifer o gantodau—" Cantata yr Adar," lle ceir tlysach melodion i blant?" Joseph "—gwaith a fu yn boblogaidd iawn, a gweithiau byrion eraill. Ond ym myd yr opera y cyfrifir ef yn bennaf fel ein prif arloeswr, neu faner-gludydd, pan roddodd i ni "Blodwen," ein opera gyntaf. Hyd yn hyn nid yw y Cymro wedi bod yn llwyddiannus iawn fel cyfansoddwr, lle y mae ystum a golygfeydd yn