Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/244

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

angenrheidiol. Ac yn wir, rhyw gyffredin yw'r Sais yn y ffurf hon hefyd. Fe ellir rhifo operäu adnabyddus Prydeinwyr bron ar fysedd un llaw. Ac o'r rhai hynny y mae y mwyaf adnabyddus, efallai, "The Bohemian Girl —wedi ei ysgrifennu gan Wyddel—Balfe; a "Maritana".—gan Wallace—Scotyn. Wrth gwrs, ni ddodaf i mewn yma chwareugerddi ysgafn a digrifol Arthur Sullivan—rhai nad oes eu hafal yn y ffurf yna wedi eu hysgrifennu gan neb arall. Y mae rhai cenhedloedd gartref ar y chwareufwrdd. Dyna'r Italiaid y mae eu hawen yn rhedeg yn naturiol at y chwareugerdd. Ymhob tref o bwys yn Italy, fe geir chwareudy, a meithrinir, nid yn unig gantorion dihafal rhai galluog yn y gelf o ystum, ond hefyd gyfansoddwyr ag y mae crefft y chwareudy yn hollol gyfarwydd iddynt. Creant bopeth gyda'r chwareufwrdd yn y meddwl, ac y mae gogwydd eu talentau ar lwyddiant yn y chwareugerdd.

Amlwg i Joseph Parry yfed yn helaeth o arddull Verdi—Verdi yr "Il Trovatore," ac nid Verdi "Aïda." Fe frithir "Il Trovatore" ag alawon canadwy, ac yn "Blodwen hefyd fe geir digon o ddefnydd melodawl i wneuthur hanner dwsin o chwareugerddi.

Yr oedd Parry yn afradlonaidd bron ar ei bwerau melodawl, ac ni phetrusai osod melodion i mewn oedd yn ymylu, a dywedyd y lleiaf, ar ddiffyg gwreiddioldeb. Y mae hyn yn syndod hefyd, pan ystyriom fod ganddo awen mor dereithiog. Fe gyfansoddwyd "Blodwen mewn cyfnod byr o amser—rhyw dri mis—yn ol yr hyn a ddywedodd wrthyf un tro. Weithiau fe ddioddefa ambell i chwareugerdd oherwydd teneuwch y libretto—geiriau trwsgl a diawen, a phlot anniddorol. Fe fu Parry yn ffodus i gael gan Mynyddog ysgrifennu'r geiriau iddo. Yr oedd Mynyddog nid yn unig yn delynegydd hapus— ond hefyd yn medru canu yn dderbyniol, a hawdd felly oedd iddo roi ffurf ganadwy i'r geiriau. Yr oedd y stori yn ddiddorol, ac yn naturiol gyrraedd calon y Cymro.

Yn "Blodwen," fel yn y " Bohemian Girl" a " Maritana," y mae llawer o'r rhifynnau unigol wedi eu canu filoedd o weithiau ar wahân i'r opera. Gogleisiol ydyw yr unawdau i Hywel, y prif gymeriad; ac y mae y ddeuawd i'r cariadon