Tudalen:Cofiant Dr. Joseph Parry Mus. Doc. (1841-1903).djvu/245

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn swyn gyfareddol. A pha gerddoriaeth fwy enaid-gynhyrfiol mewn cyfarfod gwladgarol na'r ddeuawd, Mae Cymru'n barod"? Gresyn fod hon mor debyg o ran nodau, mydr, a theimlad, i ddeuawd Italaidd adnabyddus. Y mae y corawdau yn "Blodwen " yn orchestol, ond eto collant ryw gymaint mewn nwyf operataidd mwy o naws y llwyfan gyngherddol na'r un chwareuyddol. Yma fe gafodd y cyfansoddwr le iawn i ddangos ei dalent wrthbwyntol eithriadol. Y mae ei drefniad o rai o'r hen alawon Cymreig yn feistrolgar. Telaid tlws ydyw y dull y daw â'r hen alaw, "Toriad y Dydd" i mewn yng nghytgan y carcharorion—a'r effaith godidog a gynhyrcha "Ymdaith Gwŷr Harlech" fel diweddglo.

Yma eto fe welir y duedd i ysgrifennu yn ol y dull corawdol, gan fod y cyfansoddwr yn dwyn ehetgan i mewn. Fe gawn esiampl dda yn "Blodwen "o allu y cyfansoddwr i ysgrifennu darnau ysgafn—yn y waltz briodasol. Y mae yn llawn nwyf ac asbri, a phe wedi rhoi mwy o'r wedd yna i mewn, credaf yr enillai y gwaith mewn amrywiaeth. Rhoddai fwy o brydferthwch, fel gwrthgyferbyniad i dristwch rhai o'r golygfeydd.

Derbyniwyd "Blodwen" gyda brwdfrydedd mawr, ar waethaf y rhagfarn a fodolai yn erbyn actio. Yr oedd yr hen saint yn gryf yn erbyn cefnogi dim ar lun y ddrama. Yr oedd eu sêl Biwritanaidd y fath, fel yr edrychid i lawr ar chwareuon diniwed. Fe gofiaf yn dda am yr adeg y deuai y circus i'n cymdogaeth—y siars ddifrifol gaem gan ein rhieni nad oeddem i fynd yno—ninnau yn llechwraidd yn rhyw fentro i edrych ar yr orymdaith, a'n cywreinrwydd ar ei fan uchaf yn dyfalu sut yr oedd y perfformiad yn y babell. Yna mynd gartref gan ofni fod rhai o'r blaenoriaid wedi ein gweld mor hyf a syllu ar yr orymdaith, ac y caem ein galw i "gownt" o flaen y seiat!

IV.—Fe dreiodd Joseph Parry ei law, bron ymhob ffurf, a dylanwadodd yn iachus ar gyfansoddwyr y cyfnod.

Hyd ei ddyfodiad ef, Gwilym Gwent, ac Emlyn Evans, ac yn ddiweddarach yr Athro David Jenkins, nid oedd neb o'n cyfansoddwyr wedi gwneuthur rhyw lawer i gorau meibion. Yr oedd hyn yn gadael maes eang heb